Cerdd 'Invictus'
Yn y parthau hyn, yng nghanol cyffro'r Chwe Gwlad, go brin y gallai yna fod gwell amser i'r ffilm Invictus fod yn mynd o gwmpas y sinemâu.
Cymrodd y ffilm ei theitl o gerdd fwyaf adnabyddus bardd o Loegr o'r enw William Ernest Henley.
Mae'r gerdd pedwar pennill yn cynnwys llinellau adnabyddus fel
I thank whatever gods may be
For my unconquerable soul.
ac
My head is bloody, but unbowed
Yr oedd y gerdd yn gysur i Nelson Mandela, wedi ei sgrifennu ar ddarn o bapur, yn ystod ei gyfnod maith yng Ngharchar yn Ne Affrica ac o'i darllen hawdd deall sut y bu yn gynhaliaeth iddo gyda'i phennill olaf
It matters not how strait the gate,
How charged with punishments the scroll.
I am the master of my fate:
I am the captain of my soul.
Yn y ffilm mae Mandela yn rhoi copi o'r gerdd i gapten ei dîm rygbi cenedlaethol, Francois Pienaar, i ysbrydoli'r bechgyn cyn y gêm yn erbyn Seland Newydd yng ngornest fawr Cwpan Rygbi'r Byd 1995.
Mae'n ddigwyddiad sy'n ffitio i'r dim yn y ffilm er, mewn gwirionedd, rhan o araith a draddododd Theodore Roosvelt yn 1910 gyflwynodd Mandela i Pienaar yn go iawn.
Araith sy'n cael ei hadnabod fel The Man in the Arena gyda chyfeiriadaeth at ymladdwr teirw yn y cylch yn Sbaen a'r neges mai'r dyn sy'n mentro i'r cylch sy'n bwysig nid y rhai sy'n ei wylio, a'i feirniadu, o'r ymylon.
"Nid y beirniad sy'n cyfrif na'r sawl sy'n dangos sut mae'r dyn cryf yn cwympo neu sut y gallai'r gweithredwr fod wedi gwneud yn well.
"Mae'r clod i'r dyn sydd yn y cylch a'i wyneb wedi ei hagru gan lwch, chwys a gwaed. Y dyn sy'n brwydro'n ddewr, sy'n llithro, sy'n syrthio'n fyr drosodd a throsodd gan nad oes unrhyw ymdrech heb gaff gwag . . ." ac yn y blaen.
Geiriau i gymell dyfalbarhad sydd yr un mor ysbrydoledig a rhai Henley, bardd sydd, yn ôl rhai, sy'n anffodus o gael ei gofio am y gerdd hon yn unig gan iddo gyfansoddi hefyd nifer o gerddi trawiadol eraill.
Er, rwy'n siwr y byddai sawl bardd yn hapus iawn o gael ei gofio am hyd yn oed un gerdd yn unig.
Mab i lyfrwerthwr yn Gloucester oedd Henley ac yn fachgen 12 oed yn 1861 bu'n rhaid torri ei droed i ffwrdd oherwydd y ddarfodedigaeth.
Yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghaeredin, pan ail gododd y broblem, y dechreuodd o farddoni o ddifrif yn darlunio bywyd yn yr ysbyty.
Yn ystod yr un cyfnod cyfarfu y nofelydd a'r bardd Robert Louis Stevenson a dod yn ffrindiau mawr gan gydweithio i sgrifennu dramâu.
Bu hefyd yn olygydd cylchgronau gan gynnwys y National Observer y dywedir bod ganddo bron gymaint o gyfranwyr ag o ddarllenwyr mor gyfyng ei apêl.
O'i waith gwelir ei fod yn wladgarwr Seisnig brwd yn yr un cywair a Kipling a'i jingoistiaeth amrwd yn mennu ar nifer o'i gerddi fel England My England yn ôl y beirniaid.
Bu farw yn 1903 ond diau y bydd ffilm newydd Clint Eastwood yn fodd i ennyn diddordeb newydd yn ei waith.
- "Invictus yn siom," medd adolygydd.