Rhagor o Dwt Twtio
Wn i ddim oedd o'n beth call imi sôn am y cylchgrawn Zoo.
Mae peryg i'r peth fynd yn drafodaeth achos o fewn oriau i'r sylw Twt Twt ymddangos yr oedd llaw ar fy ysgwydd yn gofyn a oeddwn wedi gweld y cymorth mae'r cylchgrawn yn ei gynnig i ferched ifainc sy'n chwilio am waith trwy roi cyfle iddyn nhw ddangos eu holl gredenshials i ddarpar gyflogwyr.
Rhai fel Holly, 19, gyda 10 GCSE, 3 A/SLevels a Diploma Genedlaethol BTEC mewn Dawns.
Ac yng ngholofn This England y New Statesman dyfynnwyd dirprwy olygydd Zoo yn dweud wrth y Milton Keynes Citizen:
"Mae'n gwbl ddiragfarn - trwy gael gwared â'i dillad yr ydym wedi cael gwared ag unrhyw ragdybiaethau ynglŷn â hi."
Gan ychwanegu fod dyletswydd ar bawb i wneud yr hyn allant i helpu Gordon Brown oresgyn y wasgfa economaidd.
Y bwriad oedd cario llun gyda'r eitem hon.
Ond i be? Os da chi wedi gweld un tystysgrif TGAU rydych chi wedi'u gweld nhw'i gyd.