Cofio Mair
Fel 'Miss Mair' yr oedd Eluned Mair Davies a fu farw mor ddirybudd ddydd Iau yn Nhrelew, Patagonia yn cael ei hadnabod gan lawer.
Yn Gymraes tra chrefyddol aeth i dde America yn genhades am rai blynyddoedd yn y lle cyntaf - ond yno y treuliodd weddill ei hoes gan ddod yn rhan annatod o'r gymdeithas Gymraeg yn nhalaith Chubut.
Sefydlodd siop yn gwerthu llyfrau Cristnogol yn Nhrelew a byddai'n pregethu a gweinidogaethu - er nad oedd yn weinidog - yn y Gymraeg a'r Sbaeneg.
Bydd ei hangladd ddydd Llun Awst 24 gyda chapel y Tabernacl, Trelew, yn agored o ddeg y bore ac oedfa ddiolchgarwch yn cychwyn am ddau o´r gloch y pnawn.
Bydd y cynhebrwn yn cychwyn tua mynwent y Gaiman am 3.30 ar gyfer pedwar.
Galwyd ar y rhai sy'n galau i beidio ag anfon blodau siop ond yn hytrach roi'r arian i gronfa a sefydlwyd i gyhoeddi Testament Newydd Cymraeg-Sbaeneg, prosiect oedd agos iawn at galon Miss Mair.