91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar drywydd Jim Cro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 10:42, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Y tro nesaf y byddwch chi'n canu am Jim Cro Crystyn yr hwiangerdd Dacw Mam yn Dwad i'r plant oedwch i feddwl am funud - pwy oedd y Jim Cro Crystyn yma.

Cloriau On Trac

Yn sgil cystadleuaeth cân werin yn Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy y flwyddyn nesaf mae Siân Thomas yn codi cwr y llen ar Jim Cro yn
, cylchgrawn y mudiad Ontrac sy'n hybu traddodiadau cerdd Cymru.

Un o'r darnau gosod yn yr Eisteddfod ydi'r pennill:

Ar y ffordd wrth fynd i Rymni,
Very well-a-done Jim Cro,
Cwrddyd wnes â dyna mwnci,
Very well-a-done Jim Cro
Victoria,Victoria,
Very well-a-done Jim Cro

Eglurir yn yr erthygl i'r pennill - sy'n fersiwn o Hob y Deri Dando - gael ei anfon i Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y lle cyntaf.

Gyda Jim Cro yn ymddangos mewn o leiaf tair cân werin Gymraeg sbardunwyd Sian i ymchwilio ymhellach a darganfod i'r cymeriad gael ei greu oddeutu 1828 gan berfformiwr wynepddu o'r enw Thomas Daddy Rice.

Gwelodd ef hynafgwr du yn dawnsio a chanu
Weel about and turn about and so jis so,
Eb'ry time I weel about I jump Jim Crow

a throdd hi'n gân boblogaidd yn theatrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ôl Siân nid oes amheuaeth mai gwneud hwy yr oedd y perfformwyr gwyn am ben dawnsfeydd lle mae dawnswyr Affrig-Americanaidd yn gwatwar symudiadau adar ac anifeilaidd.

A dyna egluro'r Jim Crow ond canfu Siân hefyd fod arwyddocâd i'r Victoria Victoria hefyd gan egluro mai'r posibilrwydd yw mai cyfeirio y mae at bennaeth enwog ymhlith yr Apache a oedd yn cael ei adnabod fel Victorio.

Cafodd ei bobl ef eu herlid o'u tiroedd a'u llwgu a'u hela am arian a phleser.

Rhwng 1879 ac 1880 arweiniodd gyrch gwaedlyd yn erbyn byddin yr Unol Daleithiau ym Mecsico newydd ac Arizona - nes iddo gael ei oresgyn mewn lle o'r enw Rattlesnake Springs fis Awst 1880 gan gwmni o filwyr oedd yn gyn gaethweision.

Gallai fod, maentumia Sian, mai sianti wladgarol oedd Victoria,Victoria,
Very well-a-done Jim Cro
gan y milwyr a'i trechodd.

Fel sy'n digwydd yn aml mae un eglurhad yn codi rhagor o gwestiynau ac ymhlith y rhai y mae Siân yn eu codi y mae cwestiwn am arwyddocâd Jim Crow House yng Nghroesyceiliog, Cwmbnran, Het Jim Cro Gwenno Penygelli ac, wrth gwrs, y Jim Cro Crystyn yna sy'n eistedd ar stôl yn Dacw Mam yn Dwad.

Y peryg yw - ddod o hyd i'r atebion y bydd plismyn gweddustra cywirdeb gwleidyddol ar eich gwarthaf i roi taw ar bopeth.

A'n gwaredo rhag hynny - ond cyfra dy ddyddiau Jim Cro Crystyn - pob un o'r one two four ohonyn nhw .

A thithau'n fathemategol ddiffygiol yn barod does fydd gen ti ddim gobaith.!

  • Cylchgrawn am ddim ydi On Trac yn cael ei gyhoeddi'n dymhorol - Blwch Post 428, Caerdydd, CF11 1DP. 02920318863.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:17 ar 22 Awst 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Difyr iawn, Glyn! Yn yr Unol Daleithiau mae "Jim Crow" hefyd yn enw ar y cyfreithiau a gyflwynwyd gan daleithiau'r de i wahaniaethu ar sail hil yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfel cartref a'r 1960au.

    Dyma esiampl o'r term o araith ddiweddar gan yr Arlywydd Obama yng nghynhadledd yr NAACP.

    “Because Jim Crow laws were overturned, black CEOs today run Fortune 500 companies. (Applause). Because civil rights laws were passed, black mayors, black governors, and members of Congress served in places where they might once have been able [sic] not just to vote but even take a sip of water. And because ordinary people did such extraordinary things … that has led me to be here tonight as the 44th President of the United States of America."

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.