91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twt, twt!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:35, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Yn dilyn y drafodaeth am y twat, David Cameron.

Gwell aileirio hwnna i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth a gochel cnoc ganol nos rhyw blismon chwaeth neu gyrch plygeiniol sgwad o'r heddlu safonau.

Felly, yn ôl i'r dechrau.
Yn dilyn ein sgwrs Tyngu a Rhegi y dydd o'r blaen a'r defnydd o'r gair Twat ar y radio gan David Cameron tynnodd cyfaill fy sylw at eitem wythnosol yn y cylchgrawn Saesneg Zoo o'r enw Twat of the Week.

Neu fel mae'r cylchgrawn - sy'n cyhoeddi mor eofn luniau dirifedi o ferched ifanc yn borcyn noeth y- n ei gyhoeddi gyda'i swilder nodweddiadol, Tw*t of the Week!

Rhyw fath o ganllawiau T*t fot T*at golygyuddol ar waith siwr o fod.

Ond mae'b codi unwaith eto pa mor dderbyniol yw'r gair hwn mewn gwirionedd mewn cylchoedd mwy soffistigedig na'r blog hwn ac aelwyd y Cameroniaid.

Er Zoo ei hun sy'n dweis ei Dw*t - a chlymnlaid o bobl proffwydo'r tywydd oedden nhw yn y rhifyn diwethaf - mae cyfle i ddarllenwyr gynnig enwau hefyd - neu eu nomineiddio fel y byddai darlledwyr profiadol yn ei ddweud.

Twt twt.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.