Tynnu Sylw i herio Barn
Y sôn yw y bydd y cylchgrawn newydd Sylw ar werth ddydd Mercher - Gorffennaf 15.
Dyma'r cylchgrawn a fydd yn cystadlu fis Medi am yr arian grant y mae'r Cyngor Llyfrau yn ei roi i gynnal Barn ar hyn o bryd.
Cyhoeddir Sylw gan Y Lolfa a'r golygydd yw Gwyn Jenkins awdur Prif Weinidog Answyddogol Cymru, y cofiant i Huw T Edwards a gyhoeddwyd 2007.
Arferai weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Cafodd Y Lolfa £5,000 i baratoi y rhifyn enghreifftiol hwn o Sylw - trefniant sydd wedi peri anesmwythyd ymhlith cefnogwyr Barn.
Hefyd newydd gyrraedd y siopau mae rhifyn dwbl can tudalen o Barn sy'n cael ei olygu gan Vaughan Hughes a Menna Baines.
Bydd y ddau gylchgrawn yn cael eu pwyso a'u mesur gan banel o wyth ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun nesaf.
Y panelwyr fydd Gwyn Griffiths, newyddiadurwr, Adrian Morgan, myfyriwr, Hywel Davies golygydd Y Papur Gwyrdd, David Meredith cyn swyddog cysylltiadau cyhoeddus, Hafina Clwyd colofnydd a chyn olygydd Y Faner, Meg Elis, llenor a chyfieithydd, Catrin Evans, newyddiadurwraig a Ceri Fflur Huws, darlithydd.
Hefyd bydd Gwyn Jenkins a Vaughan Hughes yn ymateb i'w sylwadau.
Gellir gwrando ar gyfweliad gyda Mr Jenkins yn sôn am ei gylchgrawn newydd ac Elwyn Jones o Gyngor Llyfrau Cymru yn trafod y grant sydd ar gael ei gylchgronau ar ein gwefan Llyfrau.
Barn fu'r prif gylchgrawn materion y dydd Cymraeg ers ei sefydlu yn 1962 dan olygyddiaeth Emlyn Evans a ddaeth wedyn yn bennaeth Gwasg Gee.
O bosib mai cyfnod mwyaf dylanwadol y cylchgrawn oedd dan olygyddiaeth Alwyn D Rees yn Chwech a'r Saith degau ond bu i Barn .
Un arall o olygyddion nodedig y cylchgrawn fu'r un diwethaf ond un, Simon Brookes a fu'n gyfrifol am ei drawsnewid wedi cyfnod braidd yn hesb.
Yn ystod y cyfnod anesmwyth presennol un o'n newyddiadurwyr mwyaf craff a phendant ei farn, Vaughan Hughes, sydd yn y gadair - mewn partneriaeth â Menna Baines, .
Cadair boeth ar adeg pan fo Barn yn destun newyddion yn ogystal â bod yn gyfrwng i'w drafod. a'i ddadansoddi.
Dyddiau difyr i'r rhai sy'n sefyll ar y cyrion . . .
.