91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pen-blwydd Ben Hur

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:54, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

"Welsoch chi Oscar erioed?"
Cwestiwn Elen Roger Jones wrth imi adael ei chartref yn Sir Fôn ar ôl bod yn ei holi ar gyfer Y Cymro.

Yno, ar fwrdd ger y drws ffrynt, yr oedd y ddelw fechan a enillodd ei brawd am ei ran yn un o glasuron y sinema, Ben Hur yr ydym yn dathlu ei hanner canrif eleni.

Enillodd y ffilm 11 o Oscars i gyd ond dim ond un sy'n cryfrif i ni - yr un a enillodd Hugh Griffith am chwarae rhan Sheik Ilderim - perchennog y pedwar ceffyl gwyn a fenthycodd Ben Hur - Charlton Heston - i ennill y ras fawr sy'n uchafbwynt y ffilm.

Mae'r Oscar y cyfeiriodd y ddiweddar Elen Roger Jones ati gyda chymaint o edmygedd wrth fy annog i'w chodi a theimlo'i phwysau erbyn heddiw yng nghartref nai Hugh Griffith yn Llanbedrog.

Y mae Ben Hur yn un o'r ffilmiau hynny yr ydych yn dal i gofio lle gwelsoch chi hi gyntaf - Y Plaza ym Mangor gan eich bod chi'n holi - ond er mai Charlton Heston oedd yr arwr yng ngolwg y byd does dim amheuaeth mai rhan fechan Hugh Griffith 'wnaeth' y ffilm i ni.

Y Cymro Cymraeg a'r llygaid tân a barf branddu yn 'dwyn' y sioe wrth chwarae rhan yr Arabiad - a hynny heb golli dim o'i acen Gymraeg.

Ac yr oedd hynny yn wir am yr holl rannau a chwaraeodd ar lwyfan ac ar ffilm - waeth pa genedl a chwaraeai Cymraeg fyddai'r acen bob amser.

A'r hanes yw iddo dwyllo ei gyd actorion a chriw Ben Hur i gredu fod ganddo afael sicr ar yr Arabeg trwy sisial geiriau Cymraeg yng nghlustiau'r ceffylau a anwylai.

Yn gorffilyn bach yr oedd Hugh Griffith yn anferth o gymeriad a allai 'wneud' ffilm fel y gwnaeth gyda chynyrchiadau fel Tom Jones (Squire Western).

Ganwyd Hugh Emrys Griffith ddiwedd Mai 1912 ym Marianglas, Môn. Wedi gadael ysgol aeth i weithio yn y banc wedi iddo gael ei wrthod gan y btrifysgol am fethu ei arholiad Saesneg.

Yr oedd actio yn ei waed a symudodd i Lundain i fod yn nes at bethau ac ennill ei le yn y Royal Academy of Dramatic Arts. Wedi gwasanaeth yn yr India yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd mewn dros 40 o ffilmiau.
Bu farw ychydig cyn ei ben-blwydd yn 68 yn 1980.

Hanner can mlynedd yn ôl yr oedd Ben Hur yn garreg filltir o bwys. Nid yn unig yr oedd y fwyaf dramatig o 'epics' y cyfnod ond bu'n fodd i 'achub' stiwdio Metro Goldwyn Meyer a oedd mewn trafferthion ariannol dybryd ar y pryd.

Seilwyd y ffilm ar nofel gan Lew Wallace, Ben Hur - A Tale of the Christ a gyhoeddwyd yn 1880.

Milwr, cyfreithiwr a gwleidydd oedd Wallace ac yn fab i Lywodraethwr Illinois.

Bu'n ymladd mewn rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico ac yn y Rhyfel Cartref. Wedi'r rhyfel hwnnw fe'i gwnaed yn llywodraethwr New Mexico pryd y cynigiodd bardwn i'r enwog William Bonney - Billy the Kid er na fanteisiodd Bonney ar y cynnig hwnnw.

Sgrifennodd nifer o lyfrau ond yn sgil y nifer o ffilmiau a chynhyrchaid Broadway ohoni Ben Hur sydd enwocaf.
Ac heb amheuaeth yr enwocaf o'r cynyrchiadau hynny yw ffilm 1959 - ffilm Hugh Griffith,
Wel, a Charlton Heston hefyd.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.