Mae brwydr y cylchgronau materion cyfoes Cymraeg yn poethi gyda'r rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn newydd Sylw ar gael ddydd Mercher, Gorffennaf 15, 2009.
Cyhoeddir Sylw gan y Lolfa gydag arian arbennig a roddwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru i baratoi rhifyn enghreifftiol.
Bydd yn cystadlu am y grant sy'n mynd i Barn ar hyn o bryd.
Gwnaeth y Lolfa ei gais am arian y llynedd ond ni allai panel grantiau'r Cyngor Llyfrau ddewis rhwng Sylw a Barn ar sail y wybodaeth oedd ganddo.
Yn hytrach penderfynodd roi 拢5,000 i'r Lolfa baratoi rhifyn enghreifftiol a bydd y panel yn ail bwyso a mesur Sylw a Barn yn erbyn ei gilydd fis Tachwedd.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Mae'r Cyngor wedi dweud yn barod nad oes arian ar gael i noddi dau gylchgrawn materion cyfoes ac y bydd yn rhaid dewis rhyngddynt i bwy yr aiff yr aiff yr 拢80,000 sy'n mynd i Barn ar hyn o bryd.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr newydd y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones, mai mater o un neu'r llall fydd hi pan gafodd ei holi gan Gwilym Owen ar 91热爆 Radio Cymru.
Yn 么l y cais gwreiddiol dywedodd fod y panel o'r farn y gellid cyfiawnhau rhoi grant i'r ddau ond nad oedd digon o arian i wneud hynny.
Mae Barn wedi ymateb yn chwyrn i'r trefniant o roi arian yn benodol i lunio un rhifyn cystadleuol o Sylw gyda faint fynner o amser i'w lunio i'w gymharu 芒 rhifynnau arferol o Barn gan ei chyhuddo o fod yn gystadleuaeth annheg.
Gwrthododd Gwyn Jenkins, golygydd Sylw a gwneud unrhyw sylw am y gystadleuaeth grant pan yn trafod ei gylchgrawn gyda Gwilym Owen gan ddweud bod hynny "yn nwylo rhai eraill".
Disgrifiodd ei gylchgrawn fel un "materion y dydd" a fydd "yn ceisio cyfannu agweddau o fywyd Cymru yn yr ugeinfed ganrif ar hugain" gan ychwanegu y bydd yn cynnwys erthyglau ar wleidyddiaeth, y celfyddydau, chwaraeon, adolygiadau a chyfweliadau ac "elfennau ychydig yn fwy ysgafn hefyd".
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Tynnodd sylw'n arbennig at ei ddyluniad a'r defnydd o ffotograffau "trawiadol".
Soniodd hefyd am fwriad i adeiladu t卯m o gyfranwyr gyda chymysgedd o hen lawiau a 'chwaraewyr' ifanc gan gynnwys Tomos Dafydd yn arbenigwr ar wleidyddiaeth a Leusa Fflur ar gerddoriaeth fodern.
Yngl欧n 芒 safbwynt gwleidyddol dywedodd: "Ein nod ni yw denu darllenwyr i brynu'r cylchgrawn ac fe fyddwn ni yn adlewyrchu barn pobl Cymru ac fe fyddwn yn agored i safbwyntiau gwahanol; does gennym ni ddim unrhyw gwestiwn yngl欧n 芒 hynny.
"Ond os ydych yn holi am rhyw strategaeth fwy cyffredinol falle mai'r llinell fyddwn i'n ei ddweud yw, Beth sydd orau i Gymru ac efallai nad yw e yn wahanol iawn i beth fyddai llawer i gylchgrawn arall yn ei wneud.
Ychwanegodd iddo fod yn ymgynghori ym mhob rhan o Gymru er mwyn darganfod beth fyddai'n apelio.
"Da ni wedi ceisio creu cylchgrawn sy'n mynd i fod yn ddeniadol a dyna'r ffordd dwi wedi mynd ati," meddai.