Diolch byth am lyfrau sâl . . .
Ydi pob llyfr yn haeddu adolygiad?
Nac ydynt yn ôl un adolygydd Saesneg.
Wrth fynd ati i adolygu rhyw lyfr neu'i gilydd mewn cylchgrawn yr wythnos o'r blaen agorodd Nigel Lawson gyda'r geiriau:
"Fel rheol gyffredinol dydw i ddim yn credu mewn adolygu llyfrau sâl."
Ei resymeg yw eu bod yn dwyn lle a ddylai fynd i lyfrau gwell sy'n haeddu cael eu cymell.
"Mae'r lle sydd ar gael ar gyfer adolygiadau yn brin ac mae'r nifer o lyfrau da sy'n cael eu cyhoeddi yn haeddu'r cynnig cyntaf ," meddai yn y Spectator.
Mae'n ddadl gwerth oedi gyda hi a gwnaeth i mi feddwl, tybed faint o lyfrau Cymraeg fyddai'n cael eu taflu i'r fasged 'Dim gwerth eu hadolygu' pe byddem yn dewis dilyn yn ôl troed Lawson.
Wrth gwrs, gellid maddau i gyhoeddwr am amau bod canlyniadau'r yr egwyddor i'w gweld yn barod achos mae'n rhaid bod sawl llyfr Cymraeg yn llithro drwy'r rhwyd adolygiadol heb sylw o gwbl. Rhai yn llyfrau digon derbyniol.
Ond diffyg mawr 'Deddf Adolygu Lawson' yw bod yn rhaid ichi ddarllen llyfr i weld a yw'n un sâl. Mor fuddiol fyddai dyfais i ddarganfod hynny cyn darllen. Byddai'n fendith i bob un ohonom!
Ond tybed. Mae ochr arall i adolygu llyfrau sâl hefyd.
Maent yn rhoi yr hawl i adolygydd fwrw ei lach arnynt ac fel y gw^yr pawb mae rhyw bleser rhyfedd i'w gael o golbio a gorddio mymryn o awdur diamddiffyn.
Ac yn ogystal a bod yn llesol i enaid yr adolygydd mae adolygiad sy'n ffustio a chystwyo yn llawer difyrrach i'w ddarllen nag un gwerthfawrogol.
Diolch byth, felly am lyfrau sâl.
Hebddyn nhw fyddai yna ddim adolygiadau da!