Dechrau newydd gyda 'Terminator'
Ar fin cyrraedd y sinemâu mae'r bedwaredd ffilm Terminator.
A chyda hon mae actor amlycaf y gyfres wedi ei - wel, wedi ei derminetio os maddeuwch y gair.
Fydd yna ddim Arnold Schwarzeneger y tro hwn, fel ag y bu yna ers y ffilm gyntaf yn 1984.
Arwr y bedwaredd ffilm fydd Christian Bale a wnaeth gymaint o argraff fel y Batman diweddaraf.
Bydd hynny o ddiddordeb arbennig i ni yng Nghymru.
Er nad yn Gymro o waed y mae o ran lleoliad - wedi ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn 1974 yn fab i berfforwraig mewn syrcas a pheilot awyrennau.
Gyda'r fath bedigri - ac yr oedd ei daid o'u blaenau yn daflwr lleisiau, yn gonsurwr, yn focsar ac yn joci - dim rhyfedd iddo droi at actio.
A hynny'n gynnar iawn gan iddo ymddangos mewn hysbyseb meddalwr dillad Lenore pan yn wyth oed a rhannu'r llwyfan erbyn cyrraedd ei ddeg oed gyda Rowan Atkinson yn The Nerd yn West End Llundain.
Erbyn cyrraedd ei 13 yr oedd yn adnabyddus ar draws y byd yn dilyn ei ran yn Empire of the Sun Spielberg.
Yr oedd o wedi hen adael Cymru erbyn hynny gyda'r teulu wedi symud o Sir Benfro i Swydd Rydychen gyntaf, Portiwgal wedyn a Bournemouth ar ôl hynny lle dysgodd Bale ddawnsio bale a chanu'r gitâr.
Fel oedolyn ei strôc fawr oedd American Psycho wedi i Leonardo DiCaprio, y dewis cyntaf am y rhan, wrthod y cynnig.
Mae'n actor, ac fe ddangosodd American Psycho hynny, sy'n ymroi'n llwyr i'w rannau. Ar gyfer y ffilm ysgytiol The Machinist collodd bedair ston a hanner er mwyn chwarae rhan y gweithiwr ffatri hunllefus ar ei gythlwng. Erbyn gorffen ffilmio prin y gallai gerdded yr oedd mor wan.
Yn Tropic Thunder a saethwyd yng Ngwlad Tai collodd 35 pwys er mwyn mynd i ysbryd y darn fel petai.
Heb amheuaeth mae'n un o'r actorion galluocaf a adawodd Gymru. Trawsnewidiodd naws ac awyrgylch ffilmiau Batman yn llwyr yn chwarae'r brif ran yn Batman Begins gan droi ffilm gomics yn ffilm o sylwedd.
Parhaodd y trawsnewidiad gyda The Dark Knight. Ac er mai Heath Ledger dynnodd y sylw mwyaf yn honno actio Bale oedd yn rhagori mewn gwirionedd.
Yn ddiweddar gosodwyd ar y we 'berfformiad' answyddogol rhyfeddol gan yr actor lle mae'n cael ei weld yn rhegi am bron i bedwar munud aelod o'r criw a oedd wedi tarfu arno tra'n ffilmio. Llif o regfeydd sy'n cynnwys y gair Ff 37 o weithiau yn ôl y rhai hynny heb ddim gwell i'w wneud na'u cyfrif. Yr oedd yn bennod anffodus a gododd o'i ddwyster fel actor yn ôl ei gyfeillion ac fe ymddiheurodd wedyn am y digwyddiad. Beth bynnag am hynny, mae edrych ymlaen yn awr i weld beth wnaiff o gyda'r Terminator. Go brin y bydd yn ddiwedd taith. Cychwyn un arall mwyaf tebyg!