Cymru, Cyd-ddyn, Crist - a phawb
Ers tair neu bedair blynedd bellach mae'r amod o ffyddlondeb i Grist yn 'llw' yr Urdd wedi bod yn achos rhywfaint o grafu pen.
Pan sefydlwyd y mudiad gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn y Dauddegau doedd cynnwys y trydydd amod o ffyddlondeb i Grist ddim yn dramgwydd o gwbl.
Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae blant o ddiwylliannau a chredoau eraill yn llawer iawn mwy niferus yng Nghymru a bu mwy a mwy o holi dros y blynyddoedd diwethaf a yw'r trydydd cymal hwn yn llw ffyddlondeb y mudiad yn beryg o'u heithro hwy.
Dydi'r ddau gymal arall o dyngu ffyddlondeb i Gymru ac i gyd-ddyn yn drafferth i neb, beth bynnag eu cred neu ddaliadau crefyddol.
Bydd gwasanaeth yng Nghanolfan y Mileniwm bnawn Sul ar thema 'newid hinsawdd' Neges Ewyllys Da 2009 y mudiad yn ymgais i fynd i'r afael a'r broblem hon gan i'r Urdd fod yn cydweithio â Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru.
Disgrifir y seremoni fel ffordd "anturus" o dynnu "deiliaid prif gredoau a diwylliannau eraill y genedl" i'r gweithgareddau ac ar yr un pryd fynegi "traddodiad Cristnogol Cymru" .
Meddai'r Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn:
"O lwyfan cadarn traddodiad Cristnogol Cymru, bu'n bleser cael cydweithio â'r Urdd wrth groesawu traddodiadau a chredoau amrywiol Cymru heddiw i'r dathliad arloesol hwn."
Yn ystod y dathliad bydd cyflwyniad gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Elis Thomas, a chyfraniadau gan gôr CF1, band drymiau dur Ysgol Fitzalan - yr ysgol fwyaf aml-hiliol yng Nghymru - a chôr Ysgol Plasmawr.
Darlledwyd Neges Ewyllys Da yr Urdd ddydd Llun diwethaf ynghyd â chân oedd yn gysylltiedig â hi wedi ei llunio gan ddisgyblion o ysgolion Fitzalan a Phlasmawr yn y Brifddinas - y tro cyntaf i ddwy ysgol weithio ar y cyd i lunio'r Neges.