Rhaid wrth dri
Pam y penderfynwyd mai tri fyddai'n llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn oriau mân Medi 8, 1936?
Mae'r ateb yn symlach nag y byddech wedi meddwl.
Wrth gofio'r dramodydd a'r sgriptiwr William -Wil Sir Fôn - Jones yn rhifyn mis Ebrill o Barn mae John Hefin yn dwyn i gof y cyfnod pan oedd yr awdur yn paratoi ei ddrama Penyberth ar gyfer y teledu.
Rhan o'r ymchwil oedd ymweliad y ddau â Saunders Lewis trwm ei glyw yn ei gartref ym Mhenarth.
Wedi'r holi, a chyflwyno potel ddrud o win i Saunders Lewis, dyma ddod at y cwestiwn olaf un:
"Ac erbyn hyn, oherwydd y byddardod, roedd Wil a minnau o fewn ychydig fodfeddi i'r Cenedlaetholwr Mawr. 'Pam fod tri ohonoch wedi mynd y noson honno i'r ysgol fomio?' bloeddiodd Wil.
"Dim ateb y tro hwn - a dyma Wil a fi'n edrych ar ein gilydd gan geisio dyfalu pa ateb dwys a oedd ar fin dod (y Drindod, Tri Chymro, y Tri yn Un . . .).
"Dyma fi'n ceisio helpu Wil drwy ofyn y cwestiwn eto . . . a dyma'r gŵr mawr yn gwenu, yn edrych yn syth i lygaid Wil ac yn dweud yn syml iawn, 'Oherwydd doedd dau ddim yn ddigon'."