Cyfle am deyrnged
I feddwl ei bod yn gyfres sydd wedi ymestyn dros chwarter canrif mae'n dipyn o ganmoliaeth i Cof Cenedl na fu gan neb air cas i'w ddweud am yr un o'r 24 o gyfrolau a gyhoeddwyd. Dim ond canmol fu yna ers ymddangosiad ygyntaf fis Mawrth 1986!
Yn wir, bydd mwy nag un yn gweld colli'r gyfres yn awr bod ei golygydd, Yr Athro Geraint H Jenkins, wedi penderfynu ei dirwyn i ben.
Ar wahân i'r bwlch y bydd yn ei adael mae'n siŵr gen i y bydd casglwyr llyfrau yn gofidio hefyd iddo ddewis cau pen y mwdwl gyda'r bedwaredd ar hugain yn hytrach na'i gwneud yn chwarter cant crwn a thaclus.
Ond dyna fo, un peth da am hynny yw ei fod yn gadael bwlch i'r wasg gyhoeddi cyfrol olaf un a fyddai'n gyfrol deyrnged i'r golygydd diwyd a chyrraedd y chwarter cant yr un pryd.
Yn sicr, mae'n haeddu cyfrol o'r fath.
Ac fe fyddai cyfrol arall yn plesio'r darllenwyr.
Ond pwy i'w golygu?