Gwir gelwydd, celwydd gwir . . . ta be?
Mae'n ymddangos i mi - lleia'n byd ydych chi'n ei wybod am bêl-droed ac, yn sicr, lleia'n byd ydych chi'n ei wybod am hanes Brian Clough mwya'n byd ydych chi'n mynd i fwynhau'r ffilm, The Damned United.
Mae'n hen, hen, ystrydeb newyddiadurol mai gohebydd sâl sy'n gadael i ffeithiau ddifetha stori dda.
Ac er nad yw honna'n athroniaeth dderbyniol mewn newyddiaduraeth go iawn mae rhwydd hynt i nofelwyr wneud â fynnont.
A dyna eni'r greadures ryfedd honno a elwir yn 'nofel ffeithiol ffug' lle mae'r awdur yn ystumio digwyddiadau go iawn a thylino pobl go iawn er mwyn creu stori afaelgar.
A phan gyhoeddwyd nofel David Peace, The Damned United, y sylfaenwyd y ffilm arni fe'i disgrifiodd fel "another fiction, based on another fact".
Ond does bosib nad y cwestiwn sylfaenol ynglŷn â gweithiau o'r fath yw, Sut mae'r darllenydd i wybod pa ran o'r hyn mae'n ei ddarllen sy'n ffaith a pha ran sy'n ffrwyth dychymyg oni bai ei fod yn gwbl hyddysg yn y maes?
Gwir fod yr awdur ei hun wedi ei amddiffyn gan reolau enllib sy'n ei alluogi i ddweud beth a fyn am y marw heb ei gosbi - ond sut mae amddiffyn darllenwyr a chynulleidfaoedd ffilm rhag cael eu camarwain i gredu anwireddau?
Yn achos The Damned United dim ond un o'r 'cymeriadau' allodd ddial trwy gyfraith, y canolwr Johnny Giles a dderbyniodd iawndal ac ymddiheuriad gan yr awdur a'r cyhoeddwyr oherwydd yr hyn ddywedir amdano.
Doedd dim iawn o'r fath yn bosibl i gymeriadau eraill fodd bynnag, a hwythau wedi marw.
Mewn achosion fel hyn mae gan yr anwybodus yn y maes y fantais o fedru mwynhau'r fiction heb orfod ymboeni am y ffeithiau ond mae'n rhaid ei fod yn brofiad hynod rwystredig i'r rhai hynny sy'n hyddysg yn y maes o weld ffrwyth dychymyg yn cael ei gyflwyno fel ffeithiau.
"Yr ydw i'n pryderu'n fawr y bydd pobl sy'n gweld y ffilm neu ddarllen y llyfr yn credu i'r pethau hyn ddigwydd fel yr ymddangosant yn y llyfr a'u bod yn ddarlun gonest o Brian Clough," meddai un adolygydd gan gwyno er mai rhywbeth a ymddangosodd yn yr Wythdegau hwyr oedd dibyniaeth Clough ar alcohol ei fod yn cael ei ddarlunio yn y llyfr a'r ffilm fel aflwydd ei gyfnod gyda Leeds United yn y Saithdegau.
Mae'n gwestiwn digon teg: Os oedd Peace eisiau sgrifennu nofel am bêl-droed pam nad creu un gyda thîm a chymeriadau dychmygol yn hytrach nag ystumio'r gwirionedd a chamarwain yr anwybodus?
Cododd yr union bwnc hwn yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Eryri lle'r enillodd nofel Siân Eirian Rees Davies wobr goffa Daniel Owen gyda'i nofel I Fyd Sydd Well am yr ymfudwyr cyntaf i'r Wladfa ym Mhatagonia.
Ynddi, creodd berthynas gyfunrywiol rhwng Edwyn Cynrig Roberts a Lewis Jones a pherthynas odinebus rhwng Roberts a gwraig Jones er nad oes unrhyw sail o gwbl i'r ddamcaniaeth.
Yn debyg iawn i Peace amddiffynnodd hithau ei hun trwy ddweud:
"Ffug yw'r holl gymeriadau, hyd yn oed pan wyf yn rhoi enwau ffeithiol ar y cymeriadau hynny."
Ond a yw creu fiction o'r fath "based on another fact" yn deg â darllenwyr ac â'r cymeriadau sy'n cael eu haddasu?
Mae'r ateb yn un hawdd iawn i deuluoedd Clough a disgynyddion Lewis Jones ac Edwyn Cynrig Roberts os nad i ni . . .