Diweddarwyd: 6 Mehefin 2017
1. Yn gyntaf, rhaid gwneud yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif 91Èȱ¬.
2. Yna, ar unrhyw wefan 91Èȱ¬, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar frig y dudalen. (Os oes gennych chi enw arddangos, yna dyna beth fyddwch chi'n ei weld, nid "Eich cyfrif"). Gallwch ddod o hyd iddo yn y bar llywio, ger y logo 91Èȱ¬.
3. Dewiswch "Gosodiadau" yn y ddewislen. Os ydych chi'n gwneud hyn ar gyfrifiadur, byddwch yn cyrraedd eich manylion personol yn syth, felly ewch yn syth i gam 5 isod.
4. Os ydych chi ar ffôn symudol, yna bydd rhaid i chi glicio ar "Manylion personol".
5. Unwaith rydych chi yn yr adran "Manylion personol", cliciwch "Golygu" ger eich cod post.
6. Ar y dudalen nesaf, rhowch eich cod post newydd. Os ydych chi angen newid y wlad be rydych chi'n byw i rywle tu allan i'r DU, gallwch wneud hynny yma hefyd.
7. Yna cliciwch "Arbed a pharhau".