91热爆

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn trafod yr angen i annog dysgwyr i wneud y gorau o'r offer cyfathrebu digidol sydd ar gael iddyn nhw.

Nodiadau athrawon

Dydy cyfathrebu digidol ddim yn disodli dysgu traddodiadol ond mae'n gallu cyfoethogi'r profiad. Dylai athrawon adael i'r myfyrwyr ddewis pa ddull o gyfathrebu digidol yw'r un mwyaf addas ar gyfer project penodol.

Dylid defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer deilliannau dysgu gwahanol, er enghraifft byddai flogiau'n berffaith ar gyfer cyflwyniad tra byddai ffeithluniau yn addas ar gyfer adolygu. Mae yn ddelfrydol ar gyfer cysylltu gyda dysgwyr eraill ar gyfer trafodaethau a phrojectau dosbarth.

Dylai athrawon adael i'r myfyrwyr ganfod pa ddulliau ac offer fyddai'r rhai gorau i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Mae offer digidol hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cynyddu hyder myfyrwyr, ee gallai podlediad fod yn opsiwn da ar gyfer myfyriwr sy'n nerfus wrth siarad yn gyhoeddus. Mae'r defnydd cywir o offer cyfathrebu digidol yn gwneud dysgu'n fwy effeithiol ac effeithlon.

Nodiadau cwricwlwm

Mae'r clip hwn yn berthnasol i ddysgu yn CA3 a CA4 yng Nghymru.

Mwy o'r gyfres hon:

Cydweithio. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn egluro sut mae defnyddio offer cydweithio digidol yn cyfoethogi dysgu gr诺p a sgiliau cydweithredol.

Cydweithio

Storio a rhannu. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn siarad am y pwysigrwydd o annog myfyrwyr i storio ffeiliau mewn modd trefnus fel y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd.

Storio a rhannu

Cynllunio, cyrchu a chwilio. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am ddefnyddio offer digidol i helpu myfyrwyr gynllunio project ymchwil.

Cynllunio, cyrchu a chwilio