91热爆

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd llythrennedd data, sef y gallu i ddarllen, deall, creu a chyfleu data fel gwybodaeth.

Nodiadau athrawon

Gall offer digidol fod yn ddefnyddiol iawn pan yn cipio data. Mae offer megis ffurflenni holiadur ar-lein yn ein galluogi ni i gipio gwybodaeth yn gyflymach ac oddi wrth mwy o bobl na gofyn cwestiynau wyneb yn wyneb.

Fodd bynnag, mae cywirdeb y data yn ddibynnol ar yr atebion sy'n cael eu rhoi. Mae'r rhain yn eu tro ond cystal 芒'r cwestiynau sy'n cael eu holi.

Mae cwestiynau amlddewis yn syniad da ond dylai myfyrwyr osgoi holi cwestiynau arweiniol gan gadw at un pwnc ym mhob cwestiwn i osgoi unrhyw ddryswch wrth ateb. Dylai atebion ar gyfer cwestiynau amlddewis fod wedi eu trefnu ar hap fel nad yw pobl yn ticio'r un bocs bob tro yn ddifeddwl.

Mae angen i ddysgwyr ystyried y ffordd orau i ddosbarthu eu holiadur i'r gynulleidfa darged. Mae e-byst a grwpiau cyfryngau cymdeithasol cae毛dig yn gweithio'n dda ac maen nhw'n uniongyrchol. Mae yna feddalwedd holiadur sy'n bwydo'r wybodaeth i daenlen yn awtomatig sy'n ddefnyddiol ac yn arbed amser.

Mae defnyddio tablau amlder a hidlyddion mewn taenlenni yn gallu helpu i adnabod tueddiadau o fewn y data.

Mwy o'r gyfres hon:

Hunaniaeth, delwedd ac enw da. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pam ei bod hi'n bwysig i fyfyrwyr wybod sut i warchod eu hunaniaeth ar-lein.

Hunaniaeth, delwedd ac enw da

Iechyd a lles. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr ddysgu sut i ryngweithio ar-lein.

Iechyd a lles

Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pa mor bwysig yw hi bod myfyrwyr yn deall rheolau hawlfraint ar-lein.

Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth