Grwp: Java
Dyddiad darlledu sesiwn: Ebrill 27, 2005
Lle recordiwyd y Sesiwn: Stiwdios Fflach, Aberteifi
Brawddeg am y band:
Ar 么l ennill cystadleuaeth fawr Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru yn 2004 (mae'r sesiwn yma'n rhan o'u gwobr) aeth pethau o dda i well i'r band o Lambed wrth iddyn nhw hefyd ennill Brwydr Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Steddfod yng Nghasnewydd.
Be nesa?
Hefyd fel rhan o'r wobr am ennill Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru, mewn ychydig o wythnosau bydd y band yn rhyddhau EP ar label RASAL fydd yn cynnwys 5 neu 6 trac (gan gynnwys traciau o'r sesiwn). Ar 么l chwarae mewn pentwr o gigs yn ddiweddar, mae'r band yn canolbwyntio ar eu harholiadau Lefel-A ar hyn o bryd, cyn ail-afael yn eu gitars yn ystod gigs yr haf.
Aelodau:
Rhodri Daniel - git芒r
Daniel Davies - canu
Rhodri Lewis - drymiau
Ifan Gwilym - git芒r fas + clarinet
Genre: Roc Git芒r
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.