Ar C2, nos Fawrth, 1af Ionawr 2008, cafodd Huw Stephens gwmni Dyl Mei, Ian Cottrell, Lyndsey Anne a Hefin Jones yn y stiwdio, a rhoddodd y pedwar ohonynt eu 'tips' ar gyfer pa fandiau ddylech chi wylio allan amdanyn nhw yn 2008.
Dyl Mei (Cynhyrchydd / Geneth Ddrwg)
- Creision Hud
Daeth y band ifanc o Gaernarfon i amlygrwydd wedi iddynt ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B yn Eisteddfod yr Wyddgrug. Bydd Sesiwn C2 i'w glywed ganddynt yn fuan yn 2008, a disgwyliwch flwyddyn brysur ganddynt.
- Rufus Mufasa
Un o gyn-fandiau Gwyliwch y Gofod C2, cafodd Rufus Mufasa ddiwedd addawol i 2007, gyda pherfformiad ar Bandit, a chefnogi MC Mabon yng Nghlwb Ifor Bach !
- Johnny Horozontal
Band roc-indie-arbrofol ifanc o Ddinbych, wnaethon ni ddim clywed llawer gan Johnny Horozontal yn 2007, ond mae Dyl Mei yn rhaglweld y byddant yn cael blwyddyn dda yn 2008.
Ian Cottrell (DJ / Cerddor / Cyflwynydd)
- Yr Ods
Un arall o'r bandiau ifanc addawol ddaeth i amlygrwydd yn 2007. Mae Sesiwn C2 a digonedd o gigs ar y ffordd gan y band yn 2008, ac maen't yn wych yn fyw!.
- Georgia Ruth Williams
Telynores a chantores o Aberystwyth wnaeth berfformio yn noson wobrwyo'r Ffatri Bop '07. Rhywbeth hyfryd, unigryw i'r s卯n yng Nghymru.
- Hogyn Da
Prosiect unigol Ifan Dafydd o'r Derwyddon. Caneuon gwych ganddo ar ei dudalen myspace, a gobeithio clywed llawer mwy gan Hogyn Da eleni.
Lyndsey Anne (Adolygwraig / Hyrwyddwraig Gigs)
- Texas Radio Band
Roedd disgwyliadau mawr genym ar gyfer y TRB yn 2007, gyda Ep ac albym newydd i fod i'w rhyddhau... wnaeth hynny ddim cweit digwydd, ond mae'n golygu y gallwn edrych ymlaen atynt yn 2008!
- Stilletoes
Yn ystod 2007 gadawodd Carys (gitar f芒s) y band a daeth 'Mess' yn ei lle! Mae dwy o'u caneuon - 'Ti'm yn Clywed' (cyn-Sesiwn C2) a 'One Last Dream' - yn ymddnagos ar gasgliad diweddaraf label Ankst - Radio Crymi Playlist Vol.2.
Hefin Jones (Trefnydd Gigs / Hyrwyddwr)
- Stilettoes
Tip arall i Efa, Iago a 'Mess' - pync-rocyrs Blaenau!
- Pwsi Meri Mew
Gan fod Alun Gaffey hefyd yn aelod o Radio Luxembourg, ac iddynt gael blwyddyn wych yn 2007, ni chafodd lawer o amser i weithio ar ei brosiect arall - Pwsi Meri Mew, ond disgwyliwch weld mwy ohonynt yn 2008!
- Plant Duw
Mae'r gwallgofiaid a elwir yn 'Plant Duw' yn brysur orffen eu albwm cyntaf fydd allan... yn fuan yn 2008! Os bydd taith hyrwyddo i gyd-fynd a'r lawnsiad yn cael ei drefnu, bydd Plant Duw-mania yn cydio yn dynn ar hyd a lled Cymru!
Am fwy o fanylion am CD's newydd .
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.