91热爆

ByB: 9 yn troi'n 3!

Brwydr y Bandiau

Mae rowndiau cyn-derfynol Brwydr y Bandiau drosodd... pwy yw'r tri band fydd yn y rownd derfynol?

Llongyfarchiadau mawr i'r holl fandiau wnaeth gystadlu yn rowndiau cyn-derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2010 - roedd y safon yn arbennig o uchel eleni, ond y tri band sydd drwodd i'r rownd derfynol sydd i'w chynnal ar Ebrill 21ain yw:

Dyw'r gwaith galed ond megis dechrau i'r tri band fodd bynnag, gan fod rhaid iddyn nhw rwan dreulio diwrnod mewn stiwdio broffesiynol yn recordio eu caneuon ar gyfer y rownd derfynol.

Bydd y tri beirniad - Bethan Elfyn, Rhodri Llwyd Morgan, ac Ian Cottrell yn dychwelyd i stiwdios moethus C2 ar noson y ffeinal i roi eu sylwadau a marciau ar y bandiau unwaith yn rhagor, ac yn edrych am ddatblygiad rhwng y recordiadau byw (a gafwyd yn y rowndiau cyn-derfynol) a'r recordiad stiwdio.

Unwaith yn rhagor, pleidlais y gwrandawyr yn unig fydd yn penderfynu pa fand fydd yn cipio coron ennillwyr Brwydr y Bandiau 2010, felly cofiwch wrando ar y noson - Ebrill 21ain am 8pm i glywed y bandiau a'r rhifau pleidleisio hollbwysig.

I weld manylion, lluniau a'r newyddion y gystadleuaeth ewch i dudalen Brwydr y Bandiau ar wefan C2 drwy glicio yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.