91热爆

Pen-ta-Gram

Ed Holden

Prosiect diweddara' Ed Holden

Mae Ed Holden yn brysur iawn y dyddiau yma. Yn ogystal 芒 bod yn y bandiau Diwygiad a Speclum, rhedeg ei weithdai hip-hop a chynhyrchu artistiaid gwahanol yn ei gartref yn Llanforthen, mae Ed wedi ymuno a chriw newydd o artistiaid hip hop o'r gogledd sy'n perfformio o dan yr enw Pen - Ta - Gram.

Mae Pen - Ta - Gram yn dod a steiliau unigryw rhai o artistiaid mwyaf creadigol sin hip-hop Cymru hefo'i gilydd i greu caneuon newydd egniol.

Yr aelodau yw:
Ed Holden
Dybl-L
Hoax Emcee
Killah Gorilla
Alex Moller
ac artist o'r enw Artifactz.

Mi oedd pawb yn 'nabod ei gilydd o flaen llaw, mae Ed wedi gweithio efo'r artistiaid i gyd neu wedi cynhyrchu eu caneuon.

Wrth wrando ar Pen-ta-Gram, mae'n bosib clywed steil a swn pob artist unigol sydd yn y band, ond mae'r berthynas rhwng y chwe unigolyn yn gweithio'n effeithiol.

Yn 么l y band, caneuon 'Wenglish' sydd ganddyn nhw, ac mae'r gymysgedd o eiriau Cymraeg a Saesneg yn gweithio'n dda i greu swn ffres a phwerus.

Ffurfiwyd y band tua mis yn 么l, ac yn barod mae ganddyn nhw naw c芒n , ma' nhw hefyd yn jamio'n gyson, ac yn barod am eu gig cyntaf yn nhafarn y Waterloo ym Mangor, nos Wener, Mai y 1af.

Fel fysa Ed yn dweud, mae pob dim yn "fflio-'mynd" iddo ar y foment. Mae Y Diwygiad wedi eu cadarnhau fel y prif fand a'r y nos lun yn Maes B yn Eisteddfod Bala, ac mi fydd Ed hefyd yn perfformio'n unigol ar y nos Sadwrn.

Bydd cyfle hefyd i gymeryd rhan mewn gweithdai hip-hop efo Ed yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd mis Mai.
Mi fydd Ed hefyd yn mynd allan i Texas cyn bo hir i berfformio gyda'r band Speclum.

Am fwy o wybodaeth am y band ac i glywed eu caneuon ewch i

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.