In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod 芒'r newyddion diweddaraf o'r s卯n gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt...
Noson C2 yn Gwyl Swn 2010
N么s Wener, 22 Hydref yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd cynhaliwyd Noson "91热爆 Cymru: Bethan Eflyn, Adam Walton a C2 yn Cyflwyno...". Yn chwarae roedd Drains, Cyrion, Bastions a Young Legionnaire, Y Bandana, Wickes, Victorian English Gentlemens Club a Peggy Sue a mi roedd Huw Evans yno yn holi'r artistiaid ar ran C2.
Take That ar daith!
Mewn datganiad ar eu gwefan, cyhoeddodd Take That dyddiadau a manylion eu taith nesaf, Progress Live. Mae tocynnau'r daith 20-dyddiad, sy'n cynnwys chwech dyddiad Ewropeaidd, yn mynd ar werth 9am fore Gwener 29/10/10. Mae'r band yn rhyddhau ei halbym newydd, Progress, mis nesaf - y cyntaf i gynnwys Robbie Williams ers Nobody Else. Mwy o fanylion:
The Stand - I'll Be There
Cafodd y sengl "I'll Be There" ei ryddhau ddoe, 25/10/20 a daeth Owen Powell ar rhaglen Tudur a Caryl i drafod ei sut ddaeth yr holl beth o gwmpas. Aelodau The Stand: yw Guto Pryce (Super Furry Animals), Ryan Richards (Funeral for a Friend), Owen Powell (gynt o Catatonia) a Jonathan Owen (The Pocket Devils). Ar hyn o bryd mae'n sefyll yn rhif 7 yn siart senglau Amazon! Mae gwreiddiau'r g芒n "I'll Be There" yn ymestyn yn 么l i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, ac yn benodol, i adeg Streic Gyffredinol 1926, sy'n ei gwneud hi'n un ganeuon p锚l-droed hynaf yn y byd. Fred Keenor oedd capten Caerdydd a gododd yr FA cup yn n么l yn 1927 er iddo gael ei anafu ym mrwydr y Somme, yng Nghaerdydd. Mae'r sengl yn rhan o ap锚l i godi cerflyn mewn c么f iddo.
Gruff Rhys ar C2
Mi fydd Gruff yn westai ar rhaglen Huw Stephens nos Lun, 8 Tachwedd, i drafod ei sengl newydd, y daith ym mis Tachwedd a rhyddhau DVD ei ffilm Seperado. Mi fydd Gruff Rhys yn HMV Caerdydd ar ddydd Llun Rhagfyr 8fed yn arwyddo copiau o DVD y ffilm fydd ar werth yno. Yr wythnos yma hefyd mae Gruff wedi rhyddhau sengl am ddim a chyhoeddi dyddiadau ei daith nesa. Enw'r g芒n yw Shark Ridden Waters a mae hi ar gael o .
WOMEX 2010
Am y tro cyntaf erioed eleni, bydd cerddorion o Gymru yn perfformio'n arddangosiad cerddoriaeth byd WOMEX 2010. Cynhelir WOMEX yn Copenhagen, Denmarc rhwng 27-31 Hydref 2010. Dyma ymgynulliad mwyaf y byd ar gyfer cerddoriaeth ethnig, draddodiadol, amgen, leol ac mewn ieithoedd lleiafrifol. Bydd llwyfan Cerdd Cymru yn cael ei arwain gan y delynores Catrin Finch a fydd yn perfformio ynghyd a Calan, 9bach a Mabon. Bydd parteriaeth Cerdd Cymru a sylfaenwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Sefydliad Cerddoriaeth Cymru yn cael ei lawnsio yn Copenhagen. Mwy o wybodaeth:
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.