Duncan Brown
Duncan Brown yw arch-ystadegydd Galwad Cynnar.
Yn naturiaethwr uchel iawn ei barch, yn ddarlledwr mewn dwy iaith, yn ieithmon, yn fathwr enwau, ac yn golofnydd rheolaidd i'r Cymro, Duncan Brown yw arch-ystadegydd Galwad Cynnar.
Mae o'n gofnodwr dihafal o ddyddiadau ymddangosiad cyntaf hyn a'r llall ac arall, o grifft llyffant i wenol y bondo; yn borwr trwy hen ddyddiaduron hanesyddol, ac yn gadwr dyddiadur ei hun wrth gwrs; yn graffwr ar hen gardiau post, yn gofnodwr tywydd, ac yn y blaen ac yn y blaen. Y cyfan er mwyn cael y llun mwyaf cynhwysfawr o natur ein cynefinoedd ac o'r ffordd mae nhw wedi datblygu (neu newid, beth bynnag, sydd ddim yr un fath pob tro o bell ffordd) tros y blynyddoedd a'r canrifoedd, ac o sut y mae nhw yn dal i fod yn newid heddiw hefyd. Dyn y darlun mawr yw Duncan.
Mae o wedi ymddeol, ers blwyddyn neu ddwy, o'i swydd fel un o wardeiniaid (neu 'uwch-wardeiniaid' neu 'uwch-reolwyr cynefinoedd' neu beth bynnag ydyn nhw erbyn hyn) y Cyngor Cefn Gwlad. Ond 'doedd hnny ddim ond er mwyn cael mwy o amser i neud y pethau pwysig - ac un o'r pwysicaf o'r rhain yw bod yn gyd-olygydd ar Llen Natur Mae yna gysylltiad i wefan Llen Natur ar y dde.
Yn sgil ei waith fel warden, o'r Rhinogydd i Abergwyngregyn, mae Duncan wedi llunio a rheoli nifer o brosiectau pwysig, sydd wedi arwain at astudiaethau safonol o bob math ar fywyd gwyllt o Eifr gwylltion i'r Tylluanod gwynion, o Foch daear i Wybedog brith.