Main content

Porfeydd cynaliadwy - bywyd nomadig

Mae bywyd nomadig y bugeiliaid ceffylau ym Mongolia yn cylchdroi o gwmpas eu hanifeiliaid. Mae llaeth y cesig gwyllt yn ffynhonnell ardderchog o brotein i'r bugeiliaid ond tasg anodd iawn yw eu dal a'u godro! Mae'r nomadiaid yn hunangynhaliol, gan ddibynnu ar eu da byw am eu bwyd ac anghenion eraill. Heb gartref parhaol, mae'r bugeiliaid yn mudo ddwywaith y flwyddyn - rhwng gwersyll haf a gwersyll gaeaf, gan fyw mewn pebyll traddodiadol sy'n cael eu galw'n iwrtau.

Release date:

Duration:

5 minutes