Main content

Cynaliadwyedd yn yr Arctig - hela yn gynaliadwy

Pentref bach ar arfordir Grønland yw Siorapaluk - yr anheddiad brodorol mwyaf gogleddol ar y blaned. Bob haf bydd miliynau o adar – y Carfilod Bach – yn mudo a chyrraedd clogwyni Siorapaluk. Gan gadw at eu hen draddodiadau, bydd y trigolion yn dal y Carfilod tra eu bod yn yr awyr trwy ddefnyddio rhwydi wedi eu gwneud o froc môr a gewynnau. Ond fyddan nhw ddim yn bwyta’r adar ar unwaith – yn unol â’u traddodiad hynafol bydd y dynion lleol yn claddu’r Carfilod Bach o dan y ddaear er mwyn storio cyflenwad maethlon o fwyd ar gyfer y gaeaf.

Release date:

Duration:

6 minutes