Mon, 19 Sep 2011
Taro 9 yn ymchwilio i gynlluniau dadleuol i adeiladu llosgydd gwastraff ger Merthyr Tudful. Mae'r rhaglen yn teithio i'r Unol Daleithiau i ddarganfod mwy am y cwmni y tu �l i'r cynlluniau.
Taro Naw: o'r cymoedd i'r UDA - y dadlau am gynllun llosgydd MerthyrMae'r gyfres materion cyfoes 91Èȱ¬ Cymru, Taro 9 yn ymchwilio i gynlluniau dadleuol i adeiladu llosgydd gwastraff ger Merthyr Tudful. Mae'r rhaglen yn teithio i'r Unol Daleithiau i ddarganfod mwy am y cwmni y tu �l i'r cynlluniau, a'n clywed eu bod wedi gorfod talu dirwyon o filoedd o bunnau am dorri rheolau amgylcheddol yno.Mae'r datblygwyr, Covanta Energy, eisiau adeiladu safle creu egni o wastraff, Brig y Cwm, ger tref Merthyr. Bob blwyddyn, bydd yn llosgi 750,000 tunnell o wastraff sy'n methu cael ei ailgylchu gan gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi pob cartref ym mwrdeistrefi Merthyr Tudful a Chaerffili.Ymwelodd Taro Naw � thref Wallingford, yn nhalaith Connecticut, Unol Daliaethau. N�l yng Ngorffennaf eleni daeth Swyddfa Twrnai Cyffredinol y dalaith i setliad llys gyda chwmni Covanta, ar �l i'r lefelau o ddiocsin o'u llosgydd yno, gael eu mesur dros ddwywaith y lefel y dylai fod. Bu'n rhaid i'r cwmni dalu $400,000 mewn dirwyon. Y digwyddiad oedd yr eildro i reolau allyriadau diocsin gael eu torri yn y safle.Caeodd y cwmni un o'r unedau ar y safle am flwyddyn er mwyn ymchwilio beth aeth o'i le. Mae'r cwmni yn mynnu eu bod yn cydymffurfio �'r rheolau 99.9% o'r amser ar hyd eu safleoedd ar draws y UD. Maent hefyd yn pwysleisio nad oedd yr allyriadau diocsin yn Wallingford yn agos at beryglu iechyd y cyhoedd.Ond mae ymgyrchwyr sydd yn erbyn y safle ym Merthyr yn pryderu am record amgylcheddol y cwmni. Mae Meryl Darkins yn byw yn Nhredegar, pum milltir i ffwrdd o'r safle posib. Mae'n dioddef yn barod o gyflwr ar ei hysgyfaint ac felly'n poeni am yr effaith allai unrhyw allyriannau gael ar ei hiechyd bregus."Bob tro rwy'n cael annwyd, fi'n cymeryd oesoedd i ddod drosto fe a dwi byth cystal � beth oeddwn i o'r blaen," meddai. "Ac felly pryd bynnag mae unrhyw diocsins neu rhywbeth fel 'ny ma' nhw yn cael yr un effaith ar fy ysgyfaint ac felly fe fyddai'n salach nag oeddwn i o'r blaen."Taro 9, Dydd Llun, Medi 19, 91Èȱ¬ Cymru ar S4C, 9.30pm.