Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Mon, 12 Sep 2011

Seicolegydd fforensig yn galw am ail agor achos marwolaethau Llangolman.Forensic psychologist calls for the case of a Pembrokeshire brother and sister to be reopened.

Materion cyfoes o Gymru a'r byd. Current affairs from Wales and the world.Seicolegydd fforensig yn galw am ail agor achos marwolaethau Llangolman.Mae seicolegydd fforensig amlwg wedi galw am ail agor yr ymchwiliad i farwolaethau brawd a chwaer oedrannus yn sir Benfro. Ar y rhaglen gyntaf o'r gyfres newydd o Taro Naw, (Medi 12 2011), mae arbenigwr amlwg ym myd seicoleg fforensig, Dr Clive Sims, yn cwestiynu'r rheithfarn, gan ddweud ei bod hi'n "anniogel".Daethpwyd o hyd i Griff a Patti Thomas, oedd yn 73 a 70, yn farw yn eu ffermdy anghysbell yn Llangolman, Sir Benfro, yn Rhagfyr 1976. Er i Heddlu Dyfed Powys lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ddwbl, o fewn ychydig wythnosau ro'n nhw wedi dod i'r casgliad bod Griff Thomas wedi lladd y chwaer roedd e' wedi byw gyda hi ers saithdeg mlynedd, yn dilyn ffrae, ac yna wedi rhoi ei hun ar d锟絥.Er gwaetha' chwilio dyfal, ddaeth yr heddlu fyth o hyd i'r arf a ddefnyddiwyd i ladd Patti Thomas. Yn Chwefror 1977, ddeufis ar 锟絣 y marwolaethau, dyfarnodd y cwest fod Patti Thomas wedi marw o ganlyniad i ddynladdiad a chafwyd dyfarniad agored ar gyfer ei brawd, Griff.Gofynnodd Taro Naw i'r proffilydd troseddol, Dr Clive Sims, edrych eto ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i reithgor y cwest ar y pryd."Rwy'n teimlo bod tystiolaeth sylweddol dros edrych ar yr achos hwn eto," meddai Dr Sims ar y rhaglen, gan gyfeirio at yr anghysondebau niferus yn yr achos.Ym marn Dr Sims mae lle i gredu fod y brawd a'r chwaer gael eu llofruddio gan leidr wedi i ladrad fynd o chwith.Ym mis Mai, dedfrydwyd y llofrudd, John Cooper, i garchar am oes am ddwy lofruddiaeth dwbl yn sir Benfro yn yr 1980au.Yn y rhaglen, mae Taro Naw yn gofyn a oes posibilrwydd y gallai Cooper hefyd fod yn gysylltiedig gyda'r marwolaethau yn Llangolman?Taro Naw, S4C nos Lun, 12 Medi am 9.30pm.

24 o funudau