Main content

Byw heb Ddŵr: Bodau dynol yn copïo natur

Mae Diffeithdir Atacama yn Chile, ar arfordir y Cefnfor Tawel. Wrth i geryntau oer o’r môr gwrdd â’r aer poeth uwchben y diffeithdir, mae blancedi anferth o niwl yn ffurfio ac yn cael eu cludo ar draws y tir gan y gwyntoedd.

Mae planhigion cactws yn ffynnu trwy ddal y dŵr sydd yn y niwl. Wrth i’r niwl daro’r cactws mae’n cyddwyso ac mae’r anwedd dŵr yn troi’n hylif. Hefyd gall anifeiliaid yfed y diferion dŵr – mae’n ffynhonnell hanfodol o ddŵr iddyn nhw.

Mae trigolion y diffeithdir wedi dysgu sut i efelychu byd natur a dal y dŵr yma hefyd – trwy osod rhwydi anferth ar gopa bryn. Mae’r rhwydi yn dal y niwl, gan greu diferion dŵr, yn union fel y planhigion cactws.

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 20 Ionawr 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

5 minutes

This clip is from