Mon, 4 Apr 2011
Mae codiadau ym mhris tanwydd yn cael mwy o effaith ar gymunedau gwledig nag yw e yn y trefi a'r dinasoedd. The effect of rising fuel costs hits harder in the countryside than in urban areas of Wales.
Materion cyfoes o Gymru a'r byd. Current affairs from Wales and the world.Taro Naw: TanwyddAdroddiad arbennig gan Nia Thomas ar oblygiadau y cynnydd parhaol ym mhris tanwydd ar gefn gwlad Cymru gan edrych yn benodol ar Llyn ac Eifionnydd.Drwy brofiad busnesau mae'r rhaglen yn ceisio deall pam mae codiadau ym mhris tanwydd yn cael mwy o effaith ar gymunedau gwledig nag yw e yn y trefi a'r dinasoedd a felly'n peryglu dyfodol rhai ohonynt.Fe oedd na ostyngiad yn y Gyllideb ond dywed un arbenigwr yn y rhaglen bod gallu ariannol y llywodraeth i ostwng yn ormodol yn gyfyng iawn oherwydd byddai'n golygu chwilio am wneud i fyny am y colledion mewn treth drwy ddulliau eraill fel codi treth incwm.Fe glywir asesiad o'r broblem gan arbenigwr ar economi cefn gwlad o Brifysgol Aberystwyth ac am gyfarfod cyfrinachol a gafwyd yng Nghaernarfon rhwng cynrychiolwyr y diwydiant cludiant a'r gwr fu'n arwain yr ymgyrch lwyddianus i ennill tegwch i'r Gurkhas.Taro Naw, nos Lun 4ydd o Ebrill am 9.30pm ar S4C gyda isdeitlau ar 888.