Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Mon, 28 Mar 2011

Materion cyfoes o Gymru a'r byd. Elusen: 'Angen cysondeb'. Current affairs from Wales and the world. Charity: 'Consistency needed'

Materion cyfoes o Gymru a'r byd. Current affairs from Wales and the world.Elusen: 'Angen cysondeb'Mae angen cysondeb mewn gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n cael anafiadau i'r ymennydd, yn 锟絣 elusen Headway.Bydd rhaglen Taro Naw y 91热爆 hefyd yn clywed rhybuddion bod gofal arbenigol yn y gymuned ar gyfer pobol sydd wedi cael anafiadau i'r ymennydd yn dameidiog.Dywedodd Dr Jenny Thomas, ymgynghorydd yn Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd, sy'n ganolfan adsefydlu arbenigol:"Mae gofal arbenigol yn y gymuned yn amrywio o ardal i ardal. Y tu allan i ardaloedd poblog fel Caerdydd ac Abertawe mae'n rhaid i ni weld beth sydd ar gael, felly mae 'na elfen o loteri c锟絛 post. Fyddwn i ddim yn dweud bod gofal i gleifion yn waeth yn yr ardaloedd hynny, ond mae'n rhaid i ni gadw cleifion yn yr ysbyty am hirach nag y byddem pe byddai timoedd arbenigol yn yr ardaloedd hynny."'Methu cael gwely'Mae Dr Thomas hefyd yn rhybuddio bod y system yn arwain at rywfaint o flocio gwelyau."Oherwydd bod gwasanaethau yn amrywio ry' ni'n cadw rhai cleifion i mewn yn hirach nag sy'n angenrheidiol. Weithiau mae hyn yn golygu bod rhai pobol sy'n aros am wely yn methu cael un."Dywedodd Clive Davies o gangen Headway yn Abertawe, bod trigolion yr ardal yn ffodus i gael cyfleusterau Ysbyty Treforys gerllaw.Ond mae'n rhybuddio: "Does dim gwasanaeth cymunedol i'r gorllewin o Abertawe."Taro Naw - nos Lun 28 Mawrth am 9.30pm gyda ail-ddarllediad nos Fercher 30 Mawrth am 10.45pm.

25 o funudau