Problem Plastig
Y naturiaethwr Iolo Williams sy'n trafod effaith ddinistriol sbwriel plastig ar fywyd gwyllt. Presenter Iolo Williams discusses the effect of plastic pollution on wildlife.
"Ar 么l cynhesu byd-eang fyswn i'n dweud mai plastig ydi problem fwyaf dynol ryw erbyn heddiw". Dyna ddywed y naturiaethwr a'r cyflwynydd Iolo Williams am y cynnydd enfawr yn y sbwriel plastig yn y m么r a'r tir o'n cwmpas. Mae plastig yn medru lladd bywyd gwyllt ac yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd. Mae'r rhaglen yn edrych ar ba gamau sy'n cael eu cymryd i geisio datrys y broblem sbwriel, ac yn clywed pam bod 'na wrthwynebiad i rai o'r camau hynny. Gyda rhybudd y gallai moroedd y byd gynnwys mwy o blastig nag o bysgod erbyn 2050, mae'r rhaglen yn holi be fedr llywodraethau ac unigolion ei wneud i geisio atal dirywiad pellach yn y sefyllfa.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Iolo Williams yn trafod y broblem plastig
Hyd: 00:35
Darllediadau
- Iau 15 Maw 2018 12:3091热爆 Radio Cymru & 91热爆 Radio Cymru 2
- Sul 18 Maw 2018 16:0091热爆 Radio Cymru & 91热爆 Radio Cymru 2
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.