Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 91热爆 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Awtistiaeth

Dyddiadur gan y colofnydd a'r newyddiadurwraig Elin Llwyd Morgan am fywyd gyda'i mab 21 oed Joel, sy'n awtistig. Mae'n rhannu ei rhwystredigaeth gyda'r byd addysg a galw am newid.

Dyddiadur gan y colofnydd a'r newyddiadurwraig Elin Llwyd Morgan am fywyd gyda'i mab 21 oed Joel sy'n awtistig. Mae'n cyfadde' ei bod ofn ei mab ar brydiau am ei fod yn ei churo.
Yn y rhaglen mae Elin yn rhannu ei rhwystredigaeth gyda'r byd addysg ac yn galw am newid sylfaenol yn y ddarpariaeth sydd ar gael. Dywed bod diffyg cysondeb a "routine" drwy gydol y flwyddyn yn arwain at "meltdowns" yn ystod y gwyliau gan nad ydy Joel yn gallu ymdopi a'r newid. Mae gorfod symud o un ysgol i'r llall yn 16 oed, 18 oed, ac yna newid pellach yn 21 oed ar 么l gorffen coleg hefyd yn gam sylweddol sydd yn achosi poen meddwl iddi hi, ac iddo yntau.
Mae Elin am weld diwedd i'r gwyliau hir fel sydd mewn ysgolion confensiynol, ac yn hytrach darpariaeth 52 wythnos y flwyddyn.
Dywed mam arall wrth y rhaglen bod ei mab 19 oed yn disgwyl ers deunaw mis i gael symud i gartref sydd 芒 gofalwyr ynddo er mwyn cael annibyniaeth oddi wrth ei rieni. Mae'r wlad yn rhoi llai o ystyriaeth i ofynion rhai sydd ag awstisiaeth fel maent yn mynd yn h欧n, meddai.
Fel prifathro ysgol arloesol sy'n addysgu a gofalu am rai sydd ag awtistiaeth o 4 oed hyd at pan maen nhw yn 24 oed yn Lloegr dywed Trystan Pritchard bod y byd addysg ymhell ar ei hol hi o gymharu 芒'r byd meddygol; fel un sydd 芒 chwaer awtistig mae o yn awyddus i weld ysgolion tebyg i'w un o yng Nghymru yn y dyfodol.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 8 Maw 2018 12:30

Darllediad

  • Iau 8 Maw 2018 12:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad