Meddwl Am Dad
Ar 么l colli ei dad yn 2015, Stephen Hughes sy'n holi pam fod nifer o bobl 芒 chywilydd o broblemau iechyd meddwl. A look at the stigma affecting mental health problems.
Yn delio'n rheolaidd 芒 straeon trist ac ystadegau brawychus, mae'r newyddiadurwr Stephen Hughes yn mynd ar daith bersonol ac emosiynol iawn yn y rhaglen hon.
Ym mis Medi 2015, fe newidiodd bywyd Stephen a'i deulu yn llwyr wedi i'w dad, Elfed, ei ladd ei hun ar ei fferm. Daeth y teulu'n rhan o ystadegyn na wnaethon nhw erioed ei ddychmygu, sef nifer yr hunanladdiadau yn y flwyddyn honno.
Mae Stephen yn holi pam fod nifer o bobl 芒 chywilydd o broblemau iechyd meddwl. Gydag ystadegau'n awgrymu ei bod hi'n broblem gynyddyol, pam nad ydym fel cymdeithas yn trafod y cyflwr hwn yn gwbl agored a chyhoeddus? A fyddai gwneud hynny'n chwalu'r stigma, ac yn ei dro yn helpu'r dioddefwyr tawel i siarad a chael cymorth?
Gall rhywfaint o'r cynnwys beri gofid. Os hynny, a'ch bod yn chwilio am gefnogaeth neu gyngor, cysylltwch 芒 Radio Cymru ar 03703 500 600 am ragor o wybodaeth.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Mae angen chwalu'r stigma
Hyd: 01:13
Darllediadau
- Iau 11 Mai 2017 12:2091热爆 Radio Cymru
- Llun 28 Mai 2018 17:2091热爆 Radio Cymru