Main content

'Fedrwn i ddim dweud bod gen i broblemau'

Wedi gyrfa lwyddiannus ym myd y ddrama a'r cyfryngau aeth bywyd Paul Griffiths i mewn i 'drobwll' o iselder a arweiniodd at ei benderfyniad un bore i geisio lladd ei hun.

Ni lwyddodd, ac nid nes iddo ddod ato'i hun mewn ysbyty meddwl wedyn y deallodd ei fod wedi bod yn dioddef o iselder, ar ôl i feddyg ddweud hynny wrtho.

Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r dramodydd, y cyfarwyddwr a'r adolygydd theatr 40 oed yn dysgu sut i fyw ei fywyd o'r newydd.

Fis Gorffennaf 2013 fe siaradodd am ei brofiad yn agored a dirdynnol gyda Dylan Iorwerth ar Radio Cymru ac ers hynny mae wedi ysgrifennu ei ddrama gyntaf ers ei iselder, Dan y Don, sy'n disgrifio beth ddigwyddodd y bore hwnnw ym mis Mawrth 2012 er mwyn 'rhoi'r profiad i mewn i eiriau ac er mwyn, gobeithio, helpu pobl eraill yn yr un sefyllfa'.

Mae wedi bod yn sôn am y cyfnod ac am ei ddrama wrth 91热爆 Cymru:

Oedd ysgrifennu'r ddrama yn gatharsis iti?

Dwi'n meddwl ei bod hi. Mae 'sgwennu yn rhywbeth maen nhw wedi dweud wrtha i i'w wneud oherwydd ei fod yn rhan ohona i er mwyn cael pethe allan ar bapur ac er mwyn trio gwneud synnwyr o betha wedyn.

Yn y cyfnod drwg, mi o'n i yn sgwennu lot ac mae gen i bron i 100 tudalen o jyst petha oedd yn mynd drwy'n meddwl i bob dydd. Does na ddim gwerth llenyddol i raddau yn hynny ond mae na werth emosiynol a gwerth profiadau o ran trio deall i lle o'n i'n mynd a beth oedd yn mynd drwy'n meddwl i a sut o'n i'n ymateb i beth a pham.

Paul gydag actorion Dan y Don

Mae iselder yn rhywbeth cyffredin iawn yn 么l yr ystadegau, oes angen gwella ymwybyddiaeth?

Mae un o bob pedwar ohonan ni [yn dioddef o iselder] erbyn hyn dwi'n credu. Ac os ti'n defnyddio'r ddiffiniad yna maen nhw'n dweud fod traean o D欧'r Cyffredin yn dioddef a dwi'n credu mai dim ond dros ryw 50 o Aelodau Seneddol sydd wedi dod allan yn gyhoeddus a datgan hynny.

Hefyd, ar hyn o bryd y prif reswm mae pobl yn gorfod cymryd amser oddi ar eu gwaith ydy oherwydd problemau cefn. Ond ymhen dwy flynedd, os nad ynghynt, dwi'n credu mai problemau meddyliol fydd y pennaf reswm - boed yn stress neu iselder - fydd yn cadw pobl o'u gwaith oherwydd mae bywyd y dyddiau yma, boed yn straen ariannol, meddyliol, emosiynol, yn effeithio ar rywun.

Dyna'r peth mwyaf imi a fy neges i - a pam mod i wedi cytuno i wneud y cyfweliad efo Dylan Iorwerth - oedd nad oeddwn i'n gwybod mai salwch oedd wrth wraidd pam mod i yn ymateb i betha fel ag y roeddwn i.

Mi fues i am 38, os nad 39, o flynyddoedd yn byw fy mywyd a ddim yn deall pam mod i'n ymateb i berthynas â rhywun arall yn y dull roeddwn i'n ei wneud. Pam nad oeddwn i'n gallu cynnal perthynas. Pam nad oeddwn i'n gallu delio efo lot o betha gwahanol - ro'n i'n ofnadwy o ran arian, ro'n i'n ofnadwy o ran ffrindiau, ro'n i isho bod ar ben fy hun ro'n i'n ei chael hi'n anodd iawn, iawn i fyw.

Wedyn mae rhywun yn defnyddio petha wedyn i drio gwneud bywyd yn haws. Mae rhywun yn troi at ddiod. Wedyn mae rhywun yn cael hwyl ac yn ymlacio ac yn cael diod arall a diod arall a wedyn ti ddim yn gwybod pryd i stopio wedyn mae na fwy o lanast yn dod yn sgil hynny.

Doedd gen ti ddim syniad dy fod yn dioddef o iselder tan ar 么l iti gael y diagnosis ar 么l trio lladd dy hun?

Na, a dyna be sydd wedi fy nychryn i yn fwy na dim. Ro'n i'n meddwl ar un adag, 'reit dwi'm yn dallt fy hun' achos ro'n i'n cael cyfnodau lle ro'n i'n mynd i yfed. Ac wedyn yn hwyr y nos ro'n i'n cael fy hun yn gofyn 'Be dwi'n neud fan hyn? Dwi'n ganol y parc 'ma yn gweiddi', ac o'n i'n flin, yn anhapus. Do'n i jyst ddim yn deall y sefyllfa.

A r诺an, pan ti di cael diagnosis a pan ti di cyrraedd y gwaelod mewn ffordd - achos yn y chwe wythnos yng ngofal yr ysbyty meddwl ti'n cael dy gau oddi wrth y byd - ac yn cael cyfle i feddwl yn ôl, ti'n sylweddoli 'Iesgob, pwy ydw i? Pwy ydy Paul Griffiths? Pam mod i yn y llanast yma?' A ti'n trio wedyn gwneud synnwyr o bob dim.

Ti'n edrych yn ôl ar berthynasau a ti'n gweld patrwm tebyg iawn iawn ym mhob perthynas ac yn gweld patrwm yn y ffordd ti di bod yn gwario dy arian, yn y ffordd ti di bod yn dy waith ac yn sydyn reit mae bob dim yn gwneud synnwyr.

A dyna'r unig ffordd o egluro hynny ydy mai salwch ydio. Felly mae'n rhaid newid y ffordd mae rhywun yn byw, newid y ffordd mae rhywun yn meddwl a newid y ffordd mae rhywun yn defnyddio geiriau hefyd i raddau, i ddysgu be ma nw'n ei alw'n mental first aid kit, sef dysgu sgiliau newydd i ddelio efo sefyllfaoedd mewn ffyrdd gwahanol.

Roedd na sawl sbardun i dy iselder di - colli dy rieni, problemau ariannol ....

... oedd, ac o'n i'n methu concentratio yn y gwaith, roedd fy ngwaith i'n dioddef a hefyd roedd na bwysau dychrynllyd yno [roedd Paul yn gweithio i gwmni theatr ieuenctid cenedlaethol yn Llundain] ...

Mae bob dim wedyn yn mynd i dy feddwl di a ti'n deud 'Allai ddim cario mlaen efo hyn' ond hefyd yn gwybod bod yn rhaid imi weithio neu dwi'n mynd i golli fy nh欧 ac os dwi'n colli fy nh欧 fydd gen i unlla i fynd.

Wedyn ti yn y cylch du na - y trobwll du na lle ti'n mynd rownd a rownd a rownd. Fedri ddim meddwl yn y cyflwr yna am ddim. Fedri di ddim meddwl am un ffrind, fedri di ddim meddwl am ddyddiau da, fedri di ddim meddwl am un atgof melys, rwyt ti jyst yn gweld duwch, yn bod yn negyddol ac yn methu gweld unrhyw ateb.

Mae na falchder hefyd mae'n si诺r?

Oes. A dwi di clywed straeon yn y ddwy flynedd ddiwetha ma am bobl yn lladd eu hunain am nad oedden nhw eisiau dweud wrth neb fod ganddyn nhw broblemau ariannol neu'n methu delio efo'u rhywioldeb neu rwystredigaeth creadigol yn eu tagu nhw neu'n eu mygu nhw.

A dyna sut dwi'n teimlo bod rhaid i bobl siarad, mae'n rhaid i bobl fod lot mwy agored a siarad a gwrando a deall fod na atebion a bod na glustiau i wrando. Achos unwaith rwyt ti yn y duwch, yn yr iselder, mae hi'n andros o job dod ohono.

Dwi'n meddwl mai dyna ddychrynodd fi yn fwy na dim oedd fy mod i mor benderfynol o wneud [lladd fy hun], fel dwi'n gobeithio mae'r ddrama yn ryw fath o egluro ... Dwi'n gobeithio bod y ddrama yn cyfleu'r ofn ac mai nid dyna ydi'r atab a bod na help hefyd i'w gael.

Beth fyddai wedi gallu dy stopio di, ac unrhyw un arall mewn sefyllfa debyg? Sut mae cyfleu'r neges i rywun sydd yn y trobwll ynabod hyn yn rhan o'r salwch?

Mae'n gwestiwn anodd. Mae pawb yn wahanol. Be fyddwn i'n ddweud ydy mai'r cam cyntaf - na allwn i ei wneud, ac na fedrwn i ddim ei wneud - oedd jyst siarad efo pobl. Agor fy hun i fyny i gyfaill, neu bartnar, neu deulu a deud 'ylwch, dwi methu copio' neu 'ylwch mae gen i broblemau'.

Yn yr un ffordd y gwnaethon nhw ddweud wrthai yn yr ysbyty 'Mi fysat ti wedi gallu cael cymorth ariannol. Tasat ti wedi colli dy waith, mi fysat ti wedi gallu cael budd-daliadau, fysat ti wedi gallu cael cymorth i dalu dy rent'. Ond ti ddim yn gallu meddwl am y pethau yna fel rwyt ti.

Beth mae'r ferch yn y ddrama yn ei gynrychioli?

Yr ochr fenywaidd, y llais cudd, neu'r ochr fenwyaidd sydd gan bawb. Mae'r cymeriad yn fwriadol amwys, yn gyfuniad o sawl llais ... Mae na leisiau gwahanol yn dy ben di o hyd, dy emosiynau di, dy synnwyr di, neu dy ddaliadau crefyddol. Dwi di cael fy magu drwy'r capal a'r eglwys felly dwi'n gwbod bod hyn a hyn yn beth drwg, dydw i ddim i fod i regi, dwi ddim i fod i neud hynna, dwi fod i barchu pobl ond mae'r ochr diawl yn fy mhen i'n deud 'gwna hynna!' Mae o'n gyfuniad o bob dim mewn ffordd.

Mae'r gath fach sydd yn mewian yn gymeriad mor bwysig â'r gweddill, os nad pwysicach, oherwydd yn y broses therapi y peth cyntaf ddudon nhw oedd bod yn rhaid imi gael anifail anwes, ci neu gath, i roi rheswm i godi yn y bore - sef y cariad diamod, unconditional love, rhywun imi ofalu amdano heb ddisgwyl y gofal yna nôl.

Dyna pam mae'r mewian yn dod i fewn ar bwyntiau mor bwysig. Mae'n dweud 'Wel, c'mon, mae'n rhaid iti godi r诺an oherwydd mae'r gath eisiau bwyd, mae'r gath eisiau sylw'. Fedri di ddim aros yn dy wely neu yn y t欧.

Rydw i'n cymryd meddyginiaeth ar hyn o bryd. Mae'n fy nghodi uwchlaw'r tonnau - fy nghadw mewn rhywle saff ond dydw i ddim isho bod ar rheiny am weddill fy oes. Unwaith fydd y d诺r wedi cilio a fyddai'n medru rhoi fy nhraed ar dir solat a defnyddio'r holl wersi a'r sgiliau dwi di eu cael - cadw dyddiadur, cadw'n brysur, cael digon o ymarfer corff a chael r诺tin. Y rheolaeth yna - a dyna'r tri gair sydd yn y ddrama, gobaith, rheolaeth, cymdogaeth - nes cyrraedd tir solat.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma ym mis Tachwedd 2013