Cystadleuaeth Llais Cudd Radio Cymru 2
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y 91热爆 wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.
Pam rydym yn gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae’r 91热爆 yn rhoi cyfle i chi ennill gwerth £1000 o dalebau’r stryd fawr ym mis Mawrth. I gystadlu, atebwch y cwestiwn sydd ar y ffurflen ar-lein, gan roi rhywfaint o fanylion personol, er mwyn i ni allu cysylltu â chi, os byddwch yn ennill. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith y rheini sy'n ateb y cwestiwn yn gywir.
Bydd y 91热爆 yn casglu'r data personol drwy lwyfan ar-lein.
Os byddwch chi’n ennill, byddwn yn danfon eich taleb i chi'n bersonol, ac efallai y byddwn yn tynnu lluniau o’r foment i’w defnyddio i hyrwyddo ar-lein, gan gynnwys ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Efallai y gofynnir i enillwyr gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd ar ôl y gystadleuaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd y 91热爆 yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein cynnwys, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd y 91热爆 ar gyfer Cyfranwyr.
Pa ddata personol fydd y 91热爆 yn ei gasglu?
Rhaid i chi fod dros 18 oed i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
Bydd y 91热爆 yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
• Enw
• Rhif ffôn
• Ateb i'r cwestiwn
Os byddwch chi'n ennill, byddwn hefyd yn gofyn am gyfeiriad eich cartref er mwyn i ni allu anfon eich gwobr atoch.
Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y 91热爆 yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r 91热爆 fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y 91热爆 gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, ac i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hi.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Mae’r ffordd y mae’r 91热爆 yn prosesu’ch data personol wedi’i seilio’n gyfreithiol ar gyflawni tasg gyhoeddus. Rôl y 91热爆 yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
Mae gan y 91热爆 rwymedigaeth gyfreithiol i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadlaethau perthnasol.
Rhannu eich data personol
Mae’r 91热爆 yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y 91热爆 y mae’r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol, ac nid yn annibynnol ar y 91热爆.
Mae’n bosibl y bydd y 91热爆 yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.
Cadw eich data personol
Os byddwch yn aflwyddiannus, bydd y data personol sydd gan y 91热爆 yn cael ei ddileu ar 2 Mai 2025.
Bydd data personol enillwyr yn cael ei gadw gan y 91热爆 am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.
Os byddwch chi’n ymddangos yng nghynnwys y 91热爆, efallai y caiff hyn ei storio yn ein harchif am gyfnod amhenodol.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:
• Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r 91热爆 yn ei storio amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r 91热爆 wrthod eich cais.
• Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch gysylltu â'r 91热爆 drwy anfon e-bost at Swyddog Diogelu Data'r 91热爆 os oes gennych gwestiynau neu os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am eich hawliau.
Mae Polisi Preifatrwydd a Chwcis y 91热爆 ar gael yn http://www.bbc.co.uk/privacy.
Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r 91热爆 wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.
Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Llais Cudd Radio Cymru 2
Y 91热爆 yw hyrwyddwr y gystadleuaeth. Gwrandewch yn ofalus i gael manylion penodol cystadleuaeth eich gorsaf radio leol oherwydd gall hyn gael ei gyd-ddarlledu ar draws sawl gorsaf.
Pwy sy’n gymwys
1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw sy'n 18 oed neu h欧n, ac eithrio gweithwyr y 91热爆 neu Gr诺p y 91热爆, perthnasau agos iddyn nhw, neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth neu’r wobr benodol sy’n cael ei chynnig. Efallai y bydd angen dangos tystiolaeth o bwy ydych chi, eich oedran, a’ch bod yn gymwys i gymryd rhan. Mae’r 91热爆 yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw gystadleuydd neu enillydd sy’n torri’r rheolau hyn.
Sut mae cystadlu
2. Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn am 07:30am ar 1 Mawrth 2025 ar Radio Cymru 2 a bydd yn dod i ben am 1:30pm ar 31 Mawrth 2025 (ac eithrio pan fydd gofynion golygyddol yn arwain at newid amserlen neu newid mewn cynnwys rhaglenni).
3. Caiff y gystadleuaeth ei hyrwyddo ar draws rhaglenni ar 91热爆 Radio Cymru 2 a 91热爆 Radio Cymru yn ystod y cyfnod cystadlu.
4. Mae modd cystadlu drwy ffurflen we ar-lein sydd ar gael ar bbc.co.uk/llaiscudd. Ni dderbynnir unrhyw ddull arall o gystadlu.
5. Rhaid i'r cystadleuwyr gynnwys enw cyntaf ac enw olaf y person sy'n cuddio y tu ôl i'r llais yn eu barn nhw.
6. Dim ond unwaith y cewch chi gystadlu, ni fydd unrhyw atebion ychwanegol yn cael eu cyfrif, a dim ond yr ateb a rowch y tro cyntaf fydd yn cael ei dderbyn.
7. Ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben, bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith pob un cymwys sydd wedi cystadlu ac yn cael gwybod ar 2 Ebrill 2025, ac efallai y bydd yn ymddangos ar yr awyr.
Y Wobr
8. Y wobr yw £1000 o dalebau'r stryd fawr (Love2Shop). Dim ond un enillydd fydd.
9. Bydd yr enillydd yn cydnabod y gall fod Telerau ac Amodau ychwanegol ynghlwm wrth y wobr. Bydd yr enillydd yn cytuno i gadw at y Telerau a’r Amodau sy’n gysylltiedig â’r wobr. Nid yw’r 91热爆 yn gyfrifol am delerau trydydd parti na gwefannau trydydd parti sy’n gysylltiedig â’r wobr.
10. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd y 91热爆 yn gyfrifol am unrhyw ffioedd, treuliau na chostau eraill. Nid oes dim opsiwn ariannol yn lle’r wobr, ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Cyfrifoldeb enillwyr y gwobrau yw cyrraedd y digwyddiad a restrir ar eu cost eu hunain.
11. Mae’r gwobrau fel y'u disgrifir. Nid yw’r 91热爆 yn gyfrifol os nad yw enillwyr yn llwyddo i ddilyn cyfarwyddiadau.
12. Nid oes modd cyfnewid y gwobrau, nid oes modd eu trosglwyddo, ac ni ellir eu cyfnewid am arian parod na gwobrau eraill.
13. Ni all yr enillydd gopïo na dosbarthu’r wobr na chopïau ohoni. Ni all yr enillydd ddefnyddio nac atgynhyrchu unrhyw enwau, brandio na logos rhaglen sydd ar y wobr neu sy’n gysylltiedig â’r wobr mewn unrhyw ffordd. Ni chaiff yr enillydd wneud unrhyw beth gyda’r wobr a allai ddwyn anfri ar y 91热爆.
Cyffredinol
14. Bydd enw a lleoliad bras yr enillydd yn cael ei gyhoeddi.
15. Mae penderfyniad y 91热爆 o ran y cystadleuwyr a’r enillwyr yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.
16. Rhaid i bob cystadleuydd gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd rhesymol ar ôl y gystadleuaeth, os bydd angen.
17. Mae’r gystadleuaeth hon yn cael ei chynnal yn unol â chod ymddygiad y 91热爆 ar gyfer cystadlaethau, sydd ar gael yn . Mae Telerau Defnyddio'r 91热爆 yn berthnasol i'r Gystadleuaeth hon.
18. Ni all y 91热爆, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol, nac unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, rhwydwaith, system neu fel arall a all arwain at beidio â chofnodi neu recordio unrhyw gofrestriad yn iawn.
19. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y 91热爆 yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath yr oedd modd eu rhagweld, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled ariannol, niwed i enw da neu siom.
20. Ystyrir bod cystadleuwyr wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno i gadw atyn nhw wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth hon.
21. Mae’r 91热爆 yn cadw’r hawl i wneud y canlynol: (i) diwygio’r telerau ac amodau hyn gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amseroedd agor a chau'r gystadleuaeth; (ii) anghymhwyso unrhyw gystadleuydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sydd wedi dwyn anfri ar y 91热爆; (iii) pan fo’n berthnasol, anghymhwyso cystadleuydd neu enillydd, tynnu unrhyw wobr yn ôl, neu gynnig gwobr arall yn ei lle, os bydd unrhyw gystadleuydd, enillydd neu eu gwestai ar unrhyw adeg yn ymddwyn yn amhriodol neu'n beryglus (gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i fod dan ddylanwad alcohol, cyffuriau anghyfreithiol neu sylweddau cemegol, neu achosi niwsans) cyn iddo ddod ar yr awyr neu pan mae ar yr awyr, pan mae’n mynychu adeiladau’r 91热爆 neu os yw’r wobr yn cynnwys mynd i ddigwyddiad, cael ei wahardd o’r digwyddiad hwnnw; (iv) gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion mynediad ychwanegol petai’r wobr a gynigir yn gofyn am gyfyngiadau neu ofynion o’r fath (gan gynnwys tocynnau ar gyfer digwyddiadau ag isafswm oedran neu ofynion mynediad eraill, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) a (v) canslo neu amrywio'r gystadleuaeth unrhyw bryd, os gwêl y 91热爆 fod angen gwneud hynny, neu os bydd amgylchiadau'n codi sydd y tu hwnt i'w reolaeth.
22. Y 91热爆 sy’n cynnal y gystadleuaeth hon. Cyfraith Cymru a Lloegr sy’n berthnasol i'r hysbysiad a’r telerau hyn.