Main content

Geiriau caneuon- cyfres 2

Dyma eiriau'r caneuon sydd yn ymddangos ar raglenni Enwog o Fri, Ardal Ni! Cyfres 2

Rhaglen 1 - Melangell

Ìý

Anifeiliaid:

Pi po - Pi po

Helo! Helo!

Anifeiliaid y Cwm ydym ni

Codwn bawen

Chwifiwn aden

Croeso mawr i ti.

Mae’n braf cael dod allan

Allan o’n cuddfan

I chwarae yma ‘fo ti

Ond ofn sydd gennym

O Brochwel y gelyn

Sy’n hela gyda’i gi! - °äÅ´±·!!!

Melangell:

Wel peidiwch â phoeni

Dw i yma i’ch helpu

A’ch gwarchod rhai Brochwel a’i gi -

Anifeiliaid:

°äÅ´±·!

Melangell:

Peidiwch ag ofni

Eich ffrind yn wir wyf fi

Rwyf yma i’ch gwarchod chi

Anifeiliaid:

Wyt wir?

Melangell:

Ydw!

Anifeiliaid:

Pi po - Pi po

Helo! Helo!

Anifeiliaid y Cwm ydym ni

Codwn bawen

Chwifiwn aden

Croeso mawr i ti.

Croeso mawr i ti.

Rhaglen 2 - Y Ferch o'r Sgêr

Ìý

Mab wyf i sy'n byw dan benyd

Am f'anwylyd fawr ei bri;

Gwaith fwy'n ei charu'n fwy na digon,

Curio wnaeth fy nghalon i.

Gwell yw dangos beth yw'r achos

Nag ymaros dan fy nghur;

Dere'r seren atai'n llawen,

Ti gei barch a chariad pur.

Rhaglen 3 - Hedd Wyn

Ìý

‘Den ni’r plant o Fro Hedd Wyn,

Yn cofio amdanat ti,

Y bardd a’r bugail dawnus,

Trysorwn dy gerddi di.

Mae dy enw ar ein hysgol,

Mae dy wyneb ar ein stryd,

Mae dy galon yn Yr Ysgwrn,

Mab Trawsfynydd wyt o hyd.

Enwog wyt yn wir o fri,

A chofio a wnawn ni,

Y bardd a’r bugail dawnus,

‘Arwr’ y gadair ddu.

Mae dy enw ar ein hysgol,

Mae dy wyneb ar ein stryd,

Mae dy galon yn Yr Ysgwrn,

Mab Trawsfynydd wyt o hyd,

Mab Trawsfynydd wyt o hyd,

Hedd Wyn, Hedd Wyn.

Rhaglen 4 - Gwenynen Gwent

Ìý

Yma yn y Fenni

Cofio a wnawn ni

Am wraig fach benderfynol

Yn ei het fawr dal a du

Hi garai bopeth am Gymru

Ei hiaith, ei thelyn a’i chân

Cymraeg oedd yn ei chalon

A’i hysbryd oedd ar dân

Mae ganddi hi sawl enw

Er mai un ohoni sydd

Augusta Hall, Gwenynen Gwent

Arglwyddes Llanofer y dydd

Ei ffasiwn oedd gwisgo brethyn

A’i dangos yn falch i gyd

A diolch a wnawn iddi

Am ein gwisg Gymreig o hyd

Yma yn y Fenni

Cofio a wnawn ni

Am wraig fach benderfynol

Yn ei het fawr dal a du

Hi garai bopeth am Gymru

Ei hiaith, ei thelyn a’i chân

Cymraeg oedd yn ei chalon

A’i hysbryd oedd ar dân

Rhaglen 5: Gelert

Ìý

Gelert y ci

Gelert y ci

Stori hynod drist yw hi

Am arwr o gi

Ffrind ffyddlon

A chofio wnawn dy stori di

Ti yw’r Gelert yn ein pentre’

Ci ffyddlon, dewr Llywelyn Fawr

Ac yma yn Eryri

Ti yw’r arwr, ti yw’r cawr

Gelert y ci

Gelert y ci

Stori hynod drist yw hi

Am arwr o gi

Ffrind ffyddlon

A chofio wnawn dy stori di – dy stori di

Rhaglen 6: Jemeima Niclas

Ìý

Jemeima Nicholas – ‘na chi roces

O ry’n ni gyd mor browd o’i hanes

Yn ei choch a du

Dal y Ffrancwyr a wnaeth hi

Jemeima Fawr, cryf fel cawr, Jemeima ni!

Jemeima Nicholas – gyda’i phicwarch

Ni fu neb yn wir yn ddewrach –

Na’n Jemeima ni

Codi ofn a wnaeth hi

Jemeima Fawr, cryf fel cawr, Jemeima ni!

Jemeima Nicholas – o sir Benfro

O ry’n ni gyd o hyd yn cofio

Un enwog iawn o fri

A ddaeth o’n hardal ni

Jemeima Fawr, cryf fel cawr, Jemeima ni

Jemeima ni