91热爆

91热爆 Cymru Wales to adopt next generation IP technology at Central Square HQ

91热爆 Wales is set to become a leader in next generation IP technology when it moves to its new home at Central Square in Cardiff city centre.

Published: 25 April 2017
We want to harness the benefits of IP technology to provide the best possible tools to our content-makers and to free them from many of the historic constraints we’ve faced at our current HQ in Llandaff.
— Gareth Powell, 91热爆 Wales’ Chief Operating Officer

The new broadcast centre will be the first 91热爆 facility in the UK to deploy the new technology across both its production and broadcast operation. IP revolutionises the way data and signals are carried, providing far greater flexibility and enabling 91热爆 Wales to adapt quickly to future requirements.

The 91热爆 announced today that it will work with the Canadian company Grass Valley and the US technology giant Cisco to introduce the new IP (Internet Protocol) technology across the facilities at Central Square. IP is expected to replace much of the traditional SDI technology (Serial Digital Interface) that is currently used extensively by the 91热爆 and other major UK broadcasters.

Gareth Powell, 91热爆 Wales’ Chief Operating Officer, says: “IP is an investment in 91热爆 Wales’ creative future - and will put us at the vanguard of broadcast technology developments in Europe.

“The new technology is also very scalable which means we’ll be able to adapt quickly to future demands for higher bandwidth or better video resolution.”

The introduction of IP will also enable 91热爆 Wales to use their facilities at Central Square more flexibly. Unlike SDI, data and signals can flow in every direction, which means different devices dotted around the building will be able to recognise and ‘talk’ to each other. This will mean, for example, an IP-enabled microphone can be controlled by any sound desk anywhere in the building, and any TV gallery could control any IP-enabled camera.

Gareth Powell says: “This will give us a level of creative freedom about how we produce our content that we’ve never had before.

“We want to harness the benefits of IP technology to provide the best possible tools to our content-makers and to free them from many of the historic constraints we’ve faced at our current HQ in Llandaff.

“I believe this investment will help make Central Square one of the most creative, collaborative and open broadcast centres anywhere in the UK.”

NTW

91热爆 Cymru Wales am fabwysiadu technoleg IP y genhedlaeth nesaf yn y pencadlys yn y Sgwâr Canolog

Bydd 91热爆 Cymru yn arwain y ffordd ym maes technoleg IP y genhedlaeth nesaf pan fydd yn symud i’w gartref newydd yn y Sgwâr Canolog yng nghanol dinas Caerdydd.

Y ganolfan ddarlledu newydd fydd cyfleuster cyntaf y 91热爆 yn y DU i ddefnyddio'r dechnoleg newydd ar gyfer ei waith cynhyrchu a darlledu. Mae technoleg IP yn chwyldroi'r ffordd y mae data a signalau yn cael eu cludo. Mae’n llawer mwy hyblyg a bydd yn galluogi 91热爆 Cymru i addasu’n gyflym yn ôl gofynion yn y dyfodol.

Heddiw, cyhoeddodd y 91热爆 y bydd yn gweithio gyda'r cwmni o Ganada, Grass Valley a’r cwmni technoleg enfawr o’r Unol Daleithiau, Cisco, i gyflwyno’r dechnoleg IP newydd ar draws y cyfleusterau yn Sgwâr Canolog. Disgwylir y bydd technoleg IP yn cymryd lle llawer iawn o’r dechnoleg SDI draddodiadol (Rhyngwyneb Digidol Cyfresol) sy’n cael ei defnyddio’n helaeth gan y 91热爆 a darlledwyr mawr eraill yn y DU ar hyn o bryd.

Dywedodd Gareth Powell, Prif Swyddog Gweithredol 91热爆 Cymru: “Mae IP yn fuddsoddiad yn nyfodol creadigol 91热爆 Cymru - a bydd yn ein rhoi ni ar flaen y gad o ran datblygiadau technoleg ddarlledu yn Ewrop.

“Mae modd graddio’r dechnoleg newydd hefyd, sy’n golygu y byddwn ni’n gallu addasu’n gyflym i ofynion y dyfodol am led band uwch neu well eglurder fideo.”

Bydd cyflwyno technoleg IP hefyd yn galluogi 91热爆 Cymru i ddefnyddio ei gyfleusterau yn y Sgwâr Canolog yn fwy hyblyg. Yn wahanol i SDI, gall data a signalau symud i bob cyfeiriad, sy’n golygu y bydd gwahanol ddyfeisiau o amgylch yr adeilad yn gallu cydnabod y naill a’r llall a ‘siarad’ â’r naill a’r llall. Er enghraifft, bydd hyn yn golygu bod modd i unrhyw ddesg sain yn unrhyw le yn yr adeilad reoli meicroffon drwy gyfrwng technoleg IP, a gallai unrhyw oriel deledu reoli unrhyw gamera drwy gyfrwng technoleg IP.

Dywedodd Gareth Powell: “Bydd hyn yn rhoi mwy o ryddid creadigol i ni o ran sut rydyn ni’n cynhyrchu ein cynnwys nag erioed o'r blaen.

“Rydyn ni am elwa ar fanteision technoleg IP i ddarparu’r adnoddau gorau posib i’r rhai sy’n creu ein cynnwys a’u rhyddhau o nifer o'r cyfyngiadau hanesyddol rydyn ni wedi bod yn eu hwynebu yn ein pencadlys ar hyn o bryd yn Llandaf.

“Rwy’n credu y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau mai’r Sgwâr Canolog fydd un o'r canolfannau darlledu mwyaf creadigol, cydweithredol ac agored unrhyw le yn y DU.”

NTW