|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach... |
 |
 Roedd Cyngerdd Pesda Roc, a lwyfannwyd ym Methesda, yn ddathliad i nodi canmlwyddiant y streic. © 91热爆 |
Yn gynharach yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd grwpiau lleol ym Methesda cyfres o ddigwyddiadau i goffau'r streic, sydd wedi gwneud y gymuned yn le pererindod ar gyfer undebwyr llafur, a'i gwneud yn ddelwedd eiconig o hanes diwydiannol a chymdeithasol Cymreig.
Roedd yna gyngherddau corau meibion, perfformiadau ysgolion, darlleniadau a darlithoedd hanesyddol. Y cyweirnod oedd yr angen i gofio ond hefyd i faddau. Dyfynnwyd geiriau'r awdur Ernest Roberts, hanesydd y streic, "Yr unig beth y gallwn ei wneud heddiw yw edmygu'r rhai a lwyddodd i ddal tan y diwedd, ond rhaid i ni beidio â chondemnio'r rhai a fethodd wneud hynny."
 © 91热爆 | Roed yna symbolaeth gref o'r awydd i iachau clwyfau hanes wrth i berchnogion presennol chwarel y Penrhyn, cwmni adeiladu McAlpine, dalu am blac llechen i goffau'r streic, a gafodd ei dadorchuddio fel rhan o'r dathliadau coffau. Fe dalodd y cwmni hefyd am yr arysgrif ar y llechen gab y Prifardd Ieuan Wyn, sy'n darllen:
"Yn dlawd ac mewn dyledion - aeth ystyr
I Fethesda'r galon,
A byw yw co'r henfro hon
O'r helynt a'r treialon".
Words: Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|