|  |
 |
 |
 |
 |  |
 © A Bereza / W Wernick
|
|  |  |
Pwyliaid Penley |
 |
Dechreuadau’r Ysbyty Pwylaidd
Ym 1941, ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd, ac arweiniodd hyn at arwyddo’r Cytunde brhwng y Pwyliaid a’r Sofietiaid. Bu Churchill yn gyfryngwr i gytundeb rhwng Cadfridog Sikorski, yr arweinydd Pwylaidd, a Stalin, a hyrwyddodd greu byddin Bwylaidd yn yr Undeb Sofietaidd. Ffurfiwyd y fyddin gan y Pwyliaid oedd wedi eu dal yn gaeth yn yr Undeb Sofietaidd. Teithiodd gwyr a gwragedd Pwylaidd a ryddhawyd gan y Cytundeb, o bob cwr o’r Undeb Sofietaidd i Buzuluk, i’r de-ddwyrain o Moscow, i ymuno â’r rhengoedd.
Ffurfiwyd y Corfflu Meddygol Pwylaidd, neu’r ysbyty fel rhan o’r Fyddin, a gadawodd yr Undeb Sofietaidd gyda’r milwyr a’u dibinyddion ar gyfer y Dwyrain Canol ym Mis Awst 1942. Hyfforddodd y fyddin ym Mhersia, gan symud ymlaen wedyn i Iraq, lle daeth yr ysbyty o dan reolaeth y Prydeinwyr. Wedyn bu’n teithio, i Balestina, yr Affrig a’r Eidal, lle treuliodd y Fyddin Bwylaidd dair blynedd yn ymladd mewn cefnogaeth i’r cynghreiriaid, a thrin y rhai gafodd eu hanafu.
Wedi’r rhyfel
Pan ddaeth y rhyfel i ben, roedd rhai o’r Pwyliaid oedd wedi dod o ddwyrain Gwlad Pwyl mewn dau feddwl ynglŷn â dychwelyd adref. Roedd gwlad Pwyl wedi ei rhannu’n ddwy ran, ac roedd eu mamwlad o dan reolaeth Sofietaidd, ac felly rheolaeth gomiwnyddol.
Ym 1946, hwyliodd y Fyddin a’r ysbyty Bwylaidd o Naples i
Lerpwl, a dewisodd nifer o’r Pwyliaid ymgartrefu yn yr ardal. Daethpwyd o hyd i gartref i’r ysbyty ym Mhenley, 50 milltir i’r de orllewin, er mwyn medru parhau i drin hen filwyr a’u teuluoedd. Arferai’r gwersyll, a oedd erbyn hynny bron yn adfail, fod yn safle Ysbyty Gyffredinol Byddin Rhif 129 yr Unol Daleithiau ond roedden nhw wedi gadael y safle dair blynedd ynghynt pan adawsant ar gyfer ‘D Day’.
Wedi cyrraedd, roedd yr amodau oedd yn disgwyl y Pwyliaid yn wahanol iawn i’r rhai yn yr Eidal. Roedd yr hinsawdd gryn dipyn yn oerach, roedd bwyd yn cael ei ddogni, a llugoer oedd y croeso gafodd y Pwyliaid gan y Prydeinwyr, a oedd ei hunain yn ei chael yn anodd i gael dau pen llinyn ynghyd. Er hynny sefydlwyd yr Ysbyty Pwylaidd Rhif 3 a dechreuwyd wneud cartref o’r ychydig a oedd ar gael.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|