Cylchffordd Cymru: Pryderon amgylcheddol ynghylch cynlluniau trac rasio
Bu llefarydd y Ceidwadwyr ar yr amgylchedd, Antoinette Sandbach yn arwain dadl fer ar Gylchffordd Cymru ar 21 Ionawr, gan amlinellu ei phryderon am y cynlluniau ar gyfer y trac rasio.
Yn 么l Ms Sandbach, AC gogledd Cymru, mae'r cynlluniau yn golygu "risg enfawr" allai achosi difrod amgylcheddol sylweddol.
Galwodd ar weinidogion i beidio ag ymrwymo mwy o arian cyhoeddus i gynlluniau ar gyfer y trac rasio gwerth 拢315 miliwn yng Nglyn Ebwy.
Bydd y cynlluniau'n destun ymchwiliad cyhoeddus ym mis Mawrth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu grant o 拢2 miliwn tuag at ddatblygu'r cynllun, sy'n addo creu miloedd o swyddi a denu 750,000 o ymwelwyr pob blwyddyn.
Dywed gweinidogion bod unrhyw gefnogaeth bellach yn ddibynnol ar sicrhau cyllid preifat.