Latest headlines in Welsh
-
Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
---|---|---|---|---|
Plaid
PC Plaid Cymru |
Ymgeiswyr Leanne Wood | Pleidleisiau 11,891 | 50.6% | Newid o ran seddau (%) +21.1 |
Plaid
LLAF Llafur Cymru |
Ymgeiswyr Leighton Andrews | Pleidleisiau 8,432 | 35.9% | Newid o ran seddau (%) −27.3 |
Plaid
UKIP Plaid Annibyniaeth y DU |
Ymgeiswyr Stephen Clee | Pleidleisiau 2,203 | 9.4% | Newid o ran seddau (%) +9.4 |
Plaid
CEID Ceidwadwyr Cymru |
Ymgeiswyr Maria Hill | Pleidleisiau 528 | 2.2% | Newid o ran seddau (%) −2.6 |
Plaid
GRDd Plaid Werdd Cymru |
Ymgeiswyr Pat Matthews | Pleidleisiau 259 | 1.1% | Newid o ran seddau (%) +1.1 |
Plaid
DRh Dem Rhydd Cymru |
Ymgeiswyr Rhys Taylor | Pleidleisiau 173 | 0.7% | Newid o ran seddau (%) −1.7 |
Newid o'i gymharu â 2011 |
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Plaid Cymru Mwyafrif
3,459% a bleidleisiodd
47.2%Portread o'r etholaeth
Yng nghymoedd y de, i’r gogledd orllewin o Gaerdydd, mae’r Rhondda’n cynnwys hen gymunedau glofaol fel Porth, Tonypandy a Threorci.
Mae yna lefelau cymharol uchel o ddiweithdra – 11%, bron dwbl cyfartaledd y DU. Mae bron i chwarter y bobl o oedran gweithio ar fudd-daliadau. Yma roedd syndod mawr yr etholiad Cynulliad cyntaf yn 1999, pan enillodd Plaid Cymru sedd oedd – ac sy’n dal i fod - yn gadarnle Llafur yn San Steffan. Cipiodd Leighton Andrews y sedd i Lafur yn 2003 gyda mwyafrif o bron i 8,000, gan gadw’i afael yn 2007 a 2011.
Y tro diwethaf, sicrhaodd Llafur fwyafrif o 6,739 gyda 63.2% o’r bleidlais. Roedd Plaid Cymru’n ail gyda 29.5%, y Ceidwadwyr ar 4.8% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 2.5%. Adfywio economaidd a thrafnidiaeth yw’r materion allweddol yn lleol. Gyda Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, yn ceisio am un o seddi mawr y Blaid Lafur, gallai’r Rhondda fod yn un o’r brwydrau amlyca’ yn yr etholiad.