Latest headlines in Welsh
-
Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
---|---|---|---|---|
Plaid
PC Plaid Cymru |
Ymgeiswyr Elin Jones | Pleidleisiau 12,014 | 40.7% | Newid o ran seddau (%) −0.6 |
Plaid
DRh Dem Rhydd Cymru |
Ymgeiswyr Elizabeth Evans | Pleidleisiau 9,606 | 32.6% | Newid o ran seddau (%) −2.6 |
Plaid
UKIP Plaid Annibyniaeth y DU |
Ymgeiswyr Gethin James | Pleidleisiau 2,665 | 9.0% | Newid o ran seddau (%) +9.0 |
Plaid
CEID Ceidwadwyr Cymru |
Ymgeiswyr Felix Aubel | Pleidleisiau 2,075 | 7.0% | Newid o ran seddau (%) −2.4 |
Plaid
LLAF Llafur Cymru |
Ymgeiswyr Iwan Wyn Jones | Pleidleisiau 1,902 | 6.5% | Newid o ran seddau (%) −2.3 |
Plaid
GRDd Plaid Werdd Cymru |
Ymgeiswyr Brian Dafydd Williams | Pleidleisiau 1,223 | 4.1% | Newid o ran seddau (%) −1.1 |
Newid o'i gymharu â 2011 |
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Plaid Cymru Mwyafrif
2,408% a bleidleisiodd
56.1%Portread o'r etholaeth
Mae'r etholaeth yn cynnwys dwy dref brifysgol draddodiadol - Aberystwyth yn y gogledd a Llambed i'r de, ger y ffin â Sir Gaerfyrddin. Aberystwyth yw’r dref fwyaf ac mae'n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a sefydlwyd yn 1907.
Mae pobl Ceredigion ar gyfartaledd yn ennill £516 yr wythnos o'i gymharu â £551, sef y cyfartaledd Cymreig. Fe all unigolion yn yr etholaeth ddisgwyl byw nes eu bod nhw'n 80.5 o'i gymharu â 78.5 ar draws Cymru.
Ar lefel Seneddol, mae Ceredigion wedi bod yn gadarnle i ryddfrydiaeth, ond Llafur oedd yn ei dal o 1966 i 1974, a Phlaid Cymru rhwng 1992 a 2005. Ers hynny, Mark Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi cynrychioli’r sedd, unig AS y blaid yng Nghymru, Yn y Cynulliad, Plaid Cymru sydd wedi dal y sedd ers 1999 ac fe gipiodd Elin Jones yr etholaeth yn 2011 gyda 41% o'r bleidlais a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 35%.