Teyrngedau i reolwr Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Y Felinheli, Euron Davies
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o deyrngedau wedi'u rhoi i reolwr tîm cyntaf Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Y Felinheli sydd wedi marw'n sydyn.
Roedd Euron Wyn Davies yn 46 oed.
Ar y cyfryngau cymdeithasol mae nifer wedi dweud y bydd "colled enfawr" ar ôl "rheolwr cadarn a doeth".
Mewn datganiad ar gyfrif Facebook dywedodd llefarydd ar ran Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Y Felinheli: "Trist iawn ydy gorfod cyhoeddi’r newyddion am farwolaeth sydyn ein rheolwr, Euron.
"Daeth ei weledigaeth â cyfnod llewyrchus iawn i’r clwb yn ystod ei gyfnod trawsnewidiol fel rheolwr.
"Rheolwr cadarn, doeth, a ffrind i bawb. A’i hiwmor yn liwgar trwy’r cwbl. Mae ein dyled fel clwb yn enfawr iddo.
"Colled mawr i’r clwb, i’r pentref, ac i’w deulu a’i ffrindiau oll."
Fel arwydd o barch fe gafodd gêm y clwb, sy'n chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru, yn erbyn Mynydd y Fflint ddydd Sadwrn ei gohirio.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae nifer wedi rhoi teyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol i Euron Davies.
Dywedodd Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Llannefydd ei bod yn ddrwg iawn ganddynt glywed am y "golled enfawr" gan ei ddisgrifio yn "ddyn a hanner a roddodd bopeth i'r clwb".
Mae clybiau pêl-droed Porthaethwy, Llanrwst, Llangefni, Bethesda, Porthmadog a Phwllheli hefyd wedi estyn eu cydymdeimlad.
Wrth siarad â Cymru Fyw brynhawn Sadwrn dywedodd y sylwebydd pêl-droed, David James, fod Euron Davies yn "uchel ei barch".
"Doedd o ddim yn benboeth ac roedd o'n gwbl rhesymegol wrth siarad â dyfarnwr.
"Fe fydd yna golled fawr ar ei ôl a dwi'n cydymdeimlo'n fawr â chlwb pêl-droed Y Felinheli o glywed y newyddion trist," ychwanegodd.
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS bod y newyddion yn "un hynod drist" a bod ei thri mab wedi elwa gymaint o fod yn ei dîm.
"Cyfraniad arbennig i bêl-droed llawr gwlad. Y pentref a'r ardal gyfan yn galaru ac yn meddwl am y teulu," ychwanegodd.