Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Herio Llafur Cymru i feirniadu torri ar daliadau tanwydd
Bydd pleidlais yn y Senedd ddydd Mercher ar gynnig i alw ar Lywodraeth y DU i gefnu ar eu cynlluniau i dorri ar daliadau tanwydd y gaeaf ar gyfer y mwyafrif o bensiynwyr.
Mae'r Ceidwadwyr yn Senedd Cymru yn herio gweinidogion ac aelodau Llafur i gefnogi'r cynnig, a "rhoi eu hetholwyr o flaen eu plaid".
Dywedodd y Ceidwadwyr y bydd y polisi "cywilyddus" yn cael "effaith andwyol" ar bensiynwyr yng Nghymru.
Y disgwyl yw y bydd tua 500,000 o bobl yng Nghymru yn colli allan ar y 拢300 y gaeaf hwn.
Does gan Lywodraeth Lafur Cymru ddim pwerau dros yr arian, ond mae un gweinidog wedi dweud y gallai'r penderfyniad wthio mwy o bensiynwyr i "dlodi tanwydd".
Dywedodd Llywodraeth y DU fod yn rhaid torri ar y cynllun oherwydd y cyflwr ariannol a adawyd iddyn nhw gan lywodraeth Geidwadol Rishi Sunak.
O'r hydref hwn, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves mai dim ond pobl h欧n sydd ar gredyd pensiwn neu rai budd-daliadau eraill fydd yn gymwys am y taliad o 拢300 i'w helpu gyda biliau'r gaeaf.
Yn flaenorol, roedd pob pensiynwr yn gymwys i'w dderbyn.
Dywedodd Reeves fod y llywodraeth wedi'u gadael gyda "thwll enfawr" gwerth 拢22bn yng nghyllidebau'r DU gan y Ceidwadwyr.
Ond mae'r cynlluniau i dorri ar y taliadau tanwydd wedi ennyn beirniadaeth sylweddol gan aelodau yn San Steffan, y Senedd, undebau ac elusennau.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan fod "neb yn y blaid Lafur yn hapus" gyda'r penderfyniad, ond fod angen gwneud hynny oherwydd y sefyllfa ariannol.
Ond dywedodd y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Jane Hutt ei fod yn "creu'r perygl o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd".
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, y bydd dadl a phleidlais ar y mater ddydd Mercher.
Am nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau dros y taliad, symbolaidd fydd y bleidlais.
Ond dywedodd Mr RT Davies y bydd y bleidlais yn gyfle i ASau Llafur "ddangos bod ganddyn nhw'r dewrder i roi diddordebau eu hetholwyr o flaen diddordebau eu plaid".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydyn ni wedi ymrwymo i roi'r urddas a'r diogelwch y mae pensiynwyr yn haeddu ei gael yn eu hymddeoliad, sef pam rydyn ni'n diogelu'r clo triphlyg, gyda'r pensiwn gwladol i gynyddu 拢1,700 dros gyfnod y Senedd.
"Ond oherwydd cyflwr ofnadwy'r cyllidebau cyhoeddus ry'n ni wedi etifeddu, mae'n deg ein bod ni'n targedu cymorth i'r rheiny sydd ei angen fwyaf.
"Bydd dros filiwn o bensiynwyr yn dal i dderbyn taliad tanwydd y gaeaf, bydd nifer yn elwa 拢150 o'r cynllun gostyngiad cartrefi cynnes, ac ry'n ni'n annog eraill i wirio a ydyn nhw'n gymwys am gredyd pensiwn."