91Èȱ¬

Wrecsam yn Adran Un: Pwy sydd wedi chwarae eu gêm olaf?

WrecsamFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Sut fydd Phil Parkinson yn mynd ati i ail-wampio ei garfan dros yr haf?

  • Cyhoeddwyd

Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl mi oedd Wrecsam yn eistedd ar waelod Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl colli oddi cartref yn Ebbsfleet ym mis Tachwedd 2019.

Pedair blynedd a hanner yn ddiweddarach – gyda dau o sêr Hollywood yng ngofal y clwb – maen nhw wedi ennill dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol.

Mi fydden nhw yn Adran Un y tymor nesaf, sef y drydedd haen ym mhyramid pêl-droed Lloegr.

Owain Llŷr sy’n pwyso a mesur sut y bydd Phil Parkinson yn mynd ati i ail-wampio ei garfan dros yr haf.

Golwyr

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arthur Okonkwo wedi serennu yn y gôl i Wrecsam

Mi fydd Parkinson yn awyddus i arwyddo Arthur Okonkwo yn barhaol yn dilyn tymor hynod o lwyddiannus ar fenthyg o Arsenal.

Mae ei gytundeb gyda’r Gunners ar fin dod i ben ac mae o’n annhebygol o arwyddo un arall, sy’n golygu y bydd o ar gael yn rhad ac am ddim.

Y perygl ydi y bydd ei berfformiadau wedi dal sylw clybiau eraill, o bosibl yn y Bencampwriaeth.

O ran y golwyr eraill - mae Mark Howard bellach yn 37 oed, tra bod Rob Lainton heb chwarae o gwbl y tymor yma oherwydd anafiadau.

Gan fod cytundebau'r ddau yn dod i ben cyn bo hir mae’n bosibl fod y ddau wedi chwarae eu gemau olaf i’r clwb.

Cadw: Arthur Okonkwo (os yn bosibl)

Gadael fynd: Mark Howard, Rob Lainton

Ô±ô-²¹²õ²µ±ð±ô±ô·É²â°ù

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yr unig gwestiwn ydi a fydd James McClean yn parhau i chwarae am dymor arall?

Mae hwn yn un hawdd. I fi mae’r pedwar cefn-asgellwr mae Parkinson wedi eu defnyddio’n gyson ers mis Ionawr – Ryan Barnett, Luke Bolton, Jacob Mendy a James McClean - yn ddigon da i chwarae yn Adran Un.

Yr unig gwestiwn ydi a fydd James McClean yn parhau i chwarae am dymor arall?

Yn 34 oed mae McClean bellach wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, ond mi fyse rhywun yn disgwyl iddo barhau i chwarae ar lefel clwb.

Ers i Luke Bolton ymuno o Salford ym mis Ionawr tydi Anthony Ford heb chwarae o gwbl, felly mae’n amlwg nad yw yng nghynlluniau hir-dymor Parkinson.

Mae’r un peth yn wir am Callum McFadzean.

Cadw: Ryan Barnett, Luke Bolton, James McClean, Jacob Mendy

Gadael fynd: Anthony Forde, Callum McFadzean

Amddiffynnwyr

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Max Cleworth wedi sefydlu ei hun yn amddiffyn Wrecsam

Pan gurodd Wrecsam Tranmere Rovers o 1-0 ym mis Medi – Ben Tozer, Aaron Hayden a Will Boyle chwaraeodd yn yr amddiffyn.

Y gred ar y pryd oedd mai’r tri yma fyddai dewis cyntaf Parkinson. Ond fe newidiodd pethau’n sylweddol wrth i’r tymor fynd yn ei flaen.

Mae’r tymor wedi gorffen gyda Max Cleworth, Eoghan O’Connell a Tom O’Connor yn chwarae yno, a 'swn i’n synnu dim gweld y drindod yna yn dechrau yn y cefn y tymor nesaf.

Gyda Ben Tozer yn 34 oed bellach ac Aaron Hayden wedi ei lethu gydag anafiadau, efallai y bydd Parkinson yn dewis cael gwared ar y ddau.

Tydi pethau ddim wedi gweithio allan i Will Boyle ers iddo ymuno â Huddersfield, tra bod Jordan Tunnicliffe heb chwarae ers mis Chwefror.

Cadw: Max Cleworth, Eoghan O’Connell, Tom O’Connor

Gadael fynd: Aaron Hayden, Ben Tozer, Will Boyle, Jordan Tunnicliffe

Canol cae

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae creadigrwydd Elliot Lee wedi bod yn hollbwysig

Mae Andy Cannon bellach yn un o’r enwau cyntaf yn nhîm Wrecsam yn sgil ei berfformiadau'r tymor yma, ac mae’n hawdd gweld ei fod o wedi chwarae’n y Bencampwriaeth yn y gorffennol.

Mae’r un peth yn wir am George Evans sydd wedi ychwanegu presenoldeb a chadernid i’r tîm ers iddo ymuno o Millwall.

Mae creadigrwydd Elliot Lee wedi bod yn hollbwysig dros y ddau dymor diwethaf, er ei fod heb sgorio gymaint â hynny o goliau ers mis Ionawr.

Er mai Luke Young ydi capten y clwb, mae’n anodd ei weld o’n chwarae unrhyw ran y tymor nesaf.

Mae James Jones wedi chwarae llai o gemau’n ddiweddar, ac er bod Jordan Davies yn fachgen lleol – tybed a fydd o’n penderfynu gadael er mwyn chwarae’n fwy rheolaidd? Tydi o ddim wedi dechrau gêm gynghrair ers mis Tachwedd diwethaf.

Cadw: Andy Cannon, George Evans, Elliot Lee

Gadael fynd: Luke Young, Jordan Davies, James Jones

Ymosodwyr

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin fydd yn arwain y llinell flaen i Wrecsam yn Adran Un, meddai Owain

Mae un peth yn sicr – mi fydd Paul Mullin yn arwain y llinell flaen i Wrecsam yn Adran Un y tymor nesaf.

Fel prif sgoriwr y clwb dros y ddau dymor diwethaf, mi fydd o’n edrych ymlaen at brofi ei hun ar lefel uwch.

Er mai dim ond un gôl mae Jack Marriott wedi ei sgorio ers ymuno ym mis Ionawr, mae’r ffaith ei fod wedi chwarae yn Adran Un yn y gorffennol yn golygu y bydd ganddo ran bwysig i’w chwarae'r tymor nesaf.

Ac er bod Steven Fletcher yn 37, dwi’n siŵr y bydd Parkinson yn awyddus i ddefnyddio ei brofiad.

Tydi Ollie Palmer ddim wedi sgorio gôl gynghrair ers mis Tachwedd, tra bod Sam Dalby wedi tangyflawni ers ymuno o Southend.

Os yw Wrecsam yn awyddus i arwyddo ymosodwr newydd yna dwi’n meddwl y bydden nhw’n fodlon gwrando am gynigion am Palmer a Dalby.

Cadw: Paul Mullin, Jack Marriott, Steven Fletcher

Gadael fynd: Ollie Palmer, Sam Dalby