Eluned Morgan yn penodi cabinet Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Eluned Morgan yw'r fenyw gyntaf i arwain Llywodraeth Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi ad-drefnu ei chabinet am y tro cyntaf.

Jeremy Miles yw'r ysgrifennydd iechyd, sef un o swyddi pwysicaf y llywodraeth gyda mwy na hanner cyllideb 拢20bn Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn aros yn y Cabinet, gan symud o fod yn ysgrifennydd iechyd dros dro i olynu Rebecca Evans yn ysgrifennydd cyllid - yr eildro iddo wneud y swydd honno.

Mr Drakeford sydd hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Eluned Morgan yn cyfarfod ei chabinet

Yn ogystal 芒 bod yn ddirprwy brif weinidog, mae Huw Irranca-Davies yn parhau yn ysgrifennydd newid hinsawdd a materion gwledig.

Mae Lynne Neagle yn parhau'n ysgrifennydd addysg.

Penodwyd Ken Skates yn ysgrifennydd dros drafnidiaeth a gogledd Cymru, ac felly mae wedi colli y cyfrifoldeb am yr economi.

Rebecca Evans yw ysgrifennydd yr economi, ynni a chynllunio.

Dyw Lesley Griffiths a Mick Antoniw, a ymddiswyddodd o'r llywodraeth ar yr un pryd 芒 Jeremy Miles a Julie James, ddim wedi cael swyddi yn y cabinet.

Bydd Jane Hutt hefyd yn aros fel prif chwip, er y bydd ei phortffolio diwylliant yn symud at yr is-weinidog Jack Sargeant a fydd hefyd yn gyfrifol am sgiliau a phartneriaeth gymdeithasol.

Yn y cyfamser mae Vikki Howells, AS Cwm Cynon, wedi cael ei dyrchafu i'r llywodraeth fel is-weinidog am y tro cyntaf, yn gyfrifol am addysg bellach ac uwch.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Huw Irranca-Davies eisoes wedi'i gadarnhau fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru

Y cabinet yn llawn yw:

  • Huw Irranca-Davies AS - Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jeremy Miles AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mark Drakeford AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a鈥檙 Gymraeg
  • Rebecca Evans AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
  • Jayne Bryant AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
  • Lynne Neagle AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Ken Skates AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
  • Jane Hutt AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a鈥檙 Prif Chwip
  • Jack Sargeant AS - Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
  • Vikki Howells AS - Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
  • Sarah Murphy AS - Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Dawn Bowden AS - Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
  • Julie James AS - Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a鈥檙 Gweinidog Cyflawni

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn ysgrifennydd cyllid a hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg

Dywedodd Eluned Morgan bod y "newidiadau rwy鈥檔 eu cyhoeddi heddiw yn cynnig sefydlogrwydd, yn manteisio ar brofiad, ac yn dod 芒鈥檔 holl dalentau ynghyd".

Ychwanegodd bod y "portffolios newydd yn adlewyrchu鈥檙 Gymru fodern ac wedi鈥檜 cynllunio i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 prif heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu".

Uno gr诺p rhanedig?

Roedd Eluned Morgan yn wynebu鈥檙 penderfyniad a ddylid ailbenodi鈥檙 gweinidogion a arweiniodd at ymddiswyddiad Vaughan Gething yn yr haf, sef Jeremy Miles, Julie James, Lesley Griffiths a Mick Antoniw.

Roedd y cyn-brif weinidog Vaughan Gething eisoes wedi diystyru ei hun rhag dychwelyd i'r llywodraeth.

Ers iddi ddod yn brif weinidog ym mis Awst, unig benodiad gweinidogol mawr Eluned Morgan fu gwneud y cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn ysgrifennydd iechyd dros dro - gan lenwi'r sedd wag a gafodd ei gadael gan Ms Morgan ei hun.

Daeth Eluned Morgan yn arweinydd Llafur Cymru ar yr addewid y gallai ddod 芒 gr诺p rhanedig Llafur yn y Senedd yn 么l at ei gilydd.

Cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad ar 么l i Jeremy Miles benderfynu peidio 芒 sefyll am yr arweinyddiaeth.

Roedd cefnogwyr Vaughan Gething wedi rhoi'r bai ar Jeremy Miles am rai o鈥檙 rhaniadau yn y gr诺p.

Dywedodd beirniaid Gething fod y bai ar y cyn-brif weinidog ei hun, a鈥檌 benderfyniad i gymryd rhodd o 拢200,000 i ymgyrch ei arweinyddiaeth gan ddyn a gafwyd yn euog o gael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon.

Dadansoddiad

Daniel Davies, Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru

Mae'n dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru ddweud taw delio gyda'r holl driniaethau a ohiriwyd gan y pandemig oedd ei phrif flaenoriaeth.

Ers hynny mae rhestrau aros wedi codi'n uwch fyth, gan gyrraedd record newydd fis diwethaf.

Jeremy Miles yw'r gwleidydd sy'n etifeddu'r ddyletswydd o geisio datrys y broblem.

Mae ei ragflaenydd yn gwybod mor anodd fydd hynny. Roedd Eluned Morgan yn weinidog iechyd cyn dod yn brif weinidog - felly hefyd Vaughan Gething a Mark Drakeford.

Ac o s么n am Drakeford, fel paffiwr sydd methu ymddeol, mae e'n 么l yn y llywodraeth, naw mis ar 么l iddo gyhoeddi ei fod am gamu lawr.

'Yr un hen Lafur'

Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru: 鈥淓r bod prif weinidog newydd, yr un hen Lafur yw hi o hyd."

Meddai: 鈥淩ydym yn gwybod y bydd y Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn parhau i fethu yn y meysydd allweddol sydd o bwys i Gymru tra byddan nhw'n blaenoriaethu eu hamser a'u hegni ar hoff brosiectau dibwrpas.

鈥淵 Ceidwadwyr Cymreig yw鈥檙 gwir ddewis amgen i wleidyddiaeth Llafur, a dim ond gyda Llywodraeth Geidwadol Gymreig y bydd pethau o鈥檙 diwedd yn newid er gwell.鈥

Ac wrth ymateb, dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: "Ar 么l haf di-sylwedd llawn ymarferion PR gwag, mae'r prif weinidog wedi penderfynu - gydag wythnos i fynd nes bod y Senedd yn dychwelyd o鈥檌 thoriad - i roi ei chabinet at ei gilydd.

"Yn y cyfamser, mae gwaddol llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn parhau: mae ein gwasanaeth iechyd mewn trafferth, mae鈥檔 economi ni鈥檔 llonydd, ac mae safonau addysg yn gostwng.

"Dyma drydydd cabinet Llywodraeth Cymru eleni ar 么l misoedd o anhrefn mewnol y blaid Lafur.

"Mae Cymru'n haeddu gwell na llywodraeth Lafur flinedig a rhanedig sy鈥檔 cyflawni dim."