91热爆

Tri dyn yn pledio'n ddieuog i herwgipio yn Sir Gaerfyrddin

Elijah Ogunnubi-Sime (chwith), Mohammad Comrie (canol) a Faiz Shah (dde)
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elijah Ogunnubi-Sime (chwith), Mohammad Comrie (canol) a Faiz Shah (dde) yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae tri dyn wedi pledio'n ddieuog i herwgipio yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ymddangosodd Mohammad Comrie, 22, o Leeds, Faiz Shah, 22, o Bradford, a Elijah Ogunnubi-Sime, 20, o Wallington, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Mae'r tri hefyd yn gwadu cyhuddiadau o glwyfo'n fwriadol a chlwyfo'n anghyfreithlon yn dilyn digwyddiad honedig ar 26 Awst.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i eiddo yn ardal Brynteg, Llanybydder yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn oedd wedi teithio i鈥檙 ardal.

Cafodd person ei gludo i鈥檙 ysbyty gyda m芒n anafiadau, ond mae bellach wedi cael mynd adref ar 么l cael triniaeth.

Cafodd Comrie, Shah a Ogunnubi-Sime eu harestio ar yr un diwrnod, ac ers hynny, maen nhw wedi鈥檜 cadw yn nalfa鈥檙 heddlu.

Mae Heddlu Gwrth-derfysgaeth Cymru (CTPW) wedi bod yn cynorthwyo swyddogion Heddlu Dyfed-Powys gyda'r ymchwiliad.

Bydd y tri yn aros yn y ddalfa tan achos llys sydd wedi'i bennu ym mis Chwefror 2025.