91热爆

Sunak yn ymosod ar record Llafur yng Nghymru

Sunak mewn bragdyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rishi Sunak wedi bod ar ymweliad 芒 bragdy yn y Barri ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod llawn cyntaf yr ymgyrch etholiadol, mae Prif Weinidog y DU wedi ymosod ar lywodraeth Lafur Cymru am y terfyn cyflymder 20mya ac amseroedd aros y GIG.

Wrth siarad mewn bragdy yn y Barri, fe gyhuddodd Rishi Sunak Llafur o greu "rhyfel ar yrwyr" a dywedodd fod cleifion yn cael eu methu gan gyflwr y GIG yng Nghymru.

Ond cafodd ei wawdio gan un AS Llafur wedi iddo ofyn i bobl a oedden nhw'n edrych ymlaen at bencampwriaeth b锚l-droed na fydd Cymru'n rhan ohoni.

Yn gynharach, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, y byddai sicrhau llywodraethau Llafur bob pen i'r M4 yn gallu "trawsnewid Cymru a thrawsnewid Prydain".

Yn y cyfamser dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, y bydd ei blaid yn "gweiddi dros Gymru".

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd, addysg, cynghorau sir, polisi trafnidiaeth ac amaeth ymhlith materion eraill, ond nid oes etholiad ar gyfer y Senedd eleni.

Bu Mr Sunak yn gweld prosesau bragu yng nghwmni Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, ac AS Bro Morgannwg, Alun Cairns, yn ystod ei ymweliad.

Er nad yw'r prif weinidog yn yfed alcohol, dywedodd fod y bragdy yn "rhan o ddiwydiant go iawn yr ydym yn awyddus i gefnogi".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Rishi Sunak gwmni David TC Davies (chwith) ac Alun Cairns (dde) ar ei ymweliad

Wrth siarad gyda 91热爆 Cymru, dywedodd Mr Sunak fod Llywodraeth Cymru yn dilyn "rhyfel ar yrwyr gyda'r terfyn cyflymder 20mya".

Ychwanegodd fod busnesau bach yn wynebu "biliau treth o filoedd o bunnoedd" o ganlyniad i newidiadau i drethu busnes.

"Y GIG yng Nghymru o dan lywodraeth Lafur yw'r gwaethaf ym Mhrydain o ran perfformiad," meddai, "gyda'r amseroedd aros hiraf ac amseroedd argyfwng gwaethaf.

"Dyna realiti Llafur yng Nghymru."

'G么l i'w rwyd ei hun'

Yn ystod yr ymweliad bu tawelwch pan ofynnodd Mr Sunak a fyddai pencampwriaeth b锚l-droed Euro 2024 yn dod ag arian i'r busnes.

"Ydych chi'n edrych 'mlaen am yr holl b锚l-droed?" gofynnodd.

Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol y bencampwriaeth.

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Jo Stevens, fod hynny'n "g么l arall i'w rwyd ei hun gan Rishi".

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Daniel Davies

Efallai'n nad bragdy yw'r ymweliad amlwg i brif weinidog sy' ddim yn yfed.

Ond trannoeth ei gyhoeddiad mawr, dyna lle'r aeth Rishi Sunak ym Mro Morgannwg.

Roedd e'n awyddus i drafod penderfyniad llywodraeth Lafur Cymru i godi cyfraddau busnes.

Ond a oedd mor wybodus am fyd y campau Cymreig?

"Ydych chi'n edrych 'mlaen at yr holl b锚l-droed?" gofynnodd.

Does bosib nad oedd e'n gwybod bod Cymru heb ei g'neud hi i dwrnament yr Euros yn Yr Almaen yr haf hwn?

Mae gan etholwyr y Fro dalent am gefnogi'r t卯m sy'n perfformio orau.

Y blaid sydd wedi ennill y sedd ymylol hon fu'n fuddugol ym mhob etholiad ers 1983.

Mae mantais fawr Llafur yn y polau piniwn ledled Prydain yn awgrymu y bydd hi'n dalcen caled i'r Ceidwadwyr gadw'r record yna.

Fe fydd seddi fel hon, heb s么n am y rhai wnaeth droi'n las dan arweinyddiaeth Boris Johnson yn 2019, dan fygythiad.

Dyw Mr Sunak ddim yn fy nharo i fel rhywun sy'n hoffi gamblo, ond mae'n amhosibl i brif weinidog alw etholiad heb gymryd risg - ac yn sicr mae e 'di gwneud hynny nawr.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething ei bod hi'n "amser i droi'r drol" ar y Ceidwadwyr

Wrth siarad mewn cynhadledd yn Llandudno fore Iau, dywedodd Vaughan Gething: "Heddiw yw'r diwrnod y gallwn ni deimlo diwedd 14 mlynedd o'r llywodraeth Geidwadol yma yn y DU o'r diwedd.

"Diwedd 14 mlynedd o ddirywiad, 14 mlynedd o esgeulustod. Cameron, May, Johnson, Truss, Sunak.

"O'r diwedd mae'n amser i droi'r drol ar y fandaliaid yna. Ry'n ni'n gwybod fod dyfodol gwahanol o'n blaenau.

"Ry'n ni'n gwybod y gwahaniaeth all llywodraeth Lafur wneud, ac ry'n ni'n gwybod y gall dwy lywodraeth Lafur bob pen i'r M4 drawsnewid Cymru a thrawsnewid Prydain."

'Llafur yn cymryd Cymru yn ganiataol'

Dywed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth mai'r hyn sy'n "bwysig iawn i ni ydy ein bod ni'n cynnig rhywbeth amgen".

"Mae'r Ceidwadwyr yn gorfod mynd - mae eu hamser nhw wedi dod - ond 'da ni hefyd yn gwybod o brofiad bod Llafur yn cymryd Cymru yn ganiataol.

"Maen nhw'n debyg o ennill yr etholiad yma dim ots be' mae Cymru'n ei ddweud, a dydyn nhw'n cynnig prin dim i ni, felly mae'n rhaid cael y llais yna yn San Steffan yn mynnu y tegwch mae Cymru ei angen."

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds fod y blaid yn "gobeithio ennill seddau a'n mynd i fod yn ymgyrchu'n galed yn ein cymunedau".