20 mlynedd ers diwedd protest fawr Friction Dynamics, Caernarfon
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 20 mlynedd ers diwedd un o anghydfodau diwydiannol hwyaf hanes Cymru.
Ar 19 Rhagfyr, 2003, daeth protest gweithwyr Friction Dynamics yng Nghaernarfon i ben.
Bu’r gweithwyr yn picedu’r gwaith am bron i 1,000 o ddyddiau ar ôl i’r perchennog Americanaidd, Craig Smith, geisio newid eu tâl a’u hamodau gwaith a’u cloi allan.
Enillodd y gweithwyr eu hachos mewn tribiwnlys diwydiannol yn y diwedd, ond chawson nhw ddim iawndal gan Mr Smith.
Hwn oedd un o’r anghydfodau hiraf yn hanes gweithredu diwydiannol yng ngwledydd Prydain.
'Cwffio… cwffio… cwffio'
Roedd yr helynt wedi dechrau fis Ebrill 2001.
Ar ôl wythnos o streic swyddogol, cafodd dros 80 o weithwyr y ffatri cynhyrchu darnau ceir eu cloi allan gan Mr Smith.
Wedyn fe ddechreuodd y llinell biced.
10 munud i sbario?
Roedd John Davies yno o’r dechrau a dywedodd: "Ar y dechra' un, oeddan ni’n teimlo yn reit unig, pobl yn dweud 'pam 'da chi'n sefyll yn fa'ma? 'Da chi am golli eniwe'.
"Ond trwy bobl yn dweud hynna, oeddan ni'n mynd yn gryfach.
"Oeddan ni’n benderfynol wedyn, toeddan ni ddim am adael hawliau oedd genno ni fynd mor hawdd â hynny, so dyma ni'n d'eud 'reit 'da ni'n cario 'mlaen a chwffio… cwffio… cwffio'."
Yn fuan iawn daeth achos gweithwyr Friction Dynamics i sylw cenedlaethol a daeth cefnogaeth i’r hogiau o bob rhan o wledydd Prydain a thu hwnt.
Roedd Gerald Parry yn un arall o arweinwyr y brotest.
"Oedd o'n ffantastig, sefyll ochr y lôn ym mhob tywydd! 'Nath 'na ryw ffarmwr o Sir Fôn roi carafán i ni - T and G Hilton oedd honno wrth gwrs."
A chofio’r gefnogaeth mae'r ffotograffydd Arwyn Roberts - neu Arwyn Herald - fu’n cofnodi’r anghydfod i bapurau newydd.
"Mi oedd y gymuned i gyd y tu ôl iddyn nhw," meddai.
"[Mae] lot o bobl wedi bod yn sôn am streic fawr y Penrhyn a’i chymharu hi â Friction.
"Oce, mi oedd Streic Fawr y Penrhyn 'chydig bach yn hirach ond y gwahaniaeth rhwng y ddwy ydy mi holltodd Streic Fawr y Penrhyn gymunedau a theuluoedd ond efo criw Friction, mi ddoth y gymuned i gyd at ei gilydd."
Ychwanegodd: "Mi oedd pobl yn mynd â bwyd iddyn nhw, pobl yn canu corn wrth basio, codi arian, lori yn dod o Lundain efo parseli bwyd iddyn nhw ac mi oedd y gymuned i gyd y tu cefn iddyn nhw.
"Wna'i byth anghofio'r rali ar y Maes yng Nghaernarfon, welish i ddim byd tebyg."
Fe aeth Arwyn a’i gydweithwyr ar y pryd - y newyddiadurwyr, Ian Edwards a Trystan Pritchard - ati i gofnodi’r hanes mewn llyfr, gan eu bod yn sylweddoli bod yr anghydfod yn un arwyddocaol.
Yn ôl Trystan: "'Nathon ni sylwi ychydig o fisoedd i mewn i’r anghydfod [fod] hwn yn rhywbeth hanesyddol.
"Mae 'na betha' mawr yn digwydd yn y dre' a theimlo oeddan ni bod hi’n bwysig bo' ni’n cael rhyw fath o gofnod o’r straeon a hefyd y lluniau a ddigwyddodd, felly o'n i'n teimlo bod ni'n rhan o rywbeth hanesyddol."
Ond 20 mlynedd yn ddiweddarach, sut mae’r cyn-weithwyr ac arweinwyr, John Davies a Gerald Parry, yn teimlo wrth edrych yn ôl?
Dywedodd John bod y brotest wedi bod werth yr ymdrech.
"Fel ma' nhw’n dweud yn Saesneg, 'we won the battle but lost the war'.
"Oedd gennon ni un board mawr yn dweud 'Us today, you tomorrow, no sick pay, no holiday pay, no overtime pay' ac ati - petha' oedd ein tadau a'n teidiau a'n cyndeidiau wedi cwffio amdanyn nhw, a dyma ni'n dweud 'wel, 'dan ni ddim yn rhoi rhein i fyny mor hawdd â hynny.
"Ond sbïwch be sydd wedi digwydd heddiw? Ma'n nhw’n cyflogi pobl ifanc ar zero hour contracts - ellan nhw ddim cael pensiynau wedyn.
"Heb bensiwn, sgennon nhw ddim byd i edrych ymlaen ato, dim dyfodol."
Ychwanegodd Gerald Parry: "Dwi’n cofio'n ôl ond dwi’m yn chwerw am y peth, mae o wedi digwydd, do.
"Yli rŵan, bywyd ydy bywyd, rhaid i ti gymryd o fel mae o'n dŵad. Ti'n colli dy ffrindiau, ti'n colli rhywun o dy deulu di, mae petha' drwg yn digwydd, mae 'na bethau da yn digwydd - bywyd yn cario 'mlaen, dydi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020