Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prifwyl Rhondda Cynon Taf am fod yn 'Eisteddfod wahanol'
- Awdur, Dafydd Morgan
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae'r disgwyl bron ar ben, gydag Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar fin dechrau.
Gyda diwrnod agoriadol y Brifwyl ddydd Sadwrn, mae 'na ddigon o edrych 'mlaen wedi bod, gyda bron i 70 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r sir weld yr Eisteddfod ddiwethaf.
Parc Ynysangharad, reit ynghanol Pontypridd, fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol dros yr wythnos nesaf.
Yn ara' deg mae'r man gwyrdd cyhoeddus hwn wedi ei droi'n faes Eisteddfodol, yn barod i groesawu Cymry a'r byd i Bontypridd.
Mae'n rhaid mynd n么l i Eisteddfod Aberd芒r ym 1956 i ddod ar draws yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf i ymweld 芒'r ardal hon o Gymru.
Oherwydd hynny mae tipyn o edrych 'mlaen wedi bod, yn 么l Louise Davies o Gyngor Rhondda Cynon Taf.
"Ni mor barod ym Mhontypridd," meddai.
"Mae 'na gyffro dros y sir i gyd, nid yn unig ym Mhontypridd ond dros y sir gyfan.
"Ni wedi bod yn edrych ymlaen ers bron i 70 mlynedd i'r Eisteddfod ddod n么l i Rondda Cynon Taf, a ni'n awyddus iawn i groesawu pawb i 诺yl ardderchog."
Mae pobl Rhondda Cynon Taf hefyd yn edrych 'mlaen at groesawu'r Brifwyl.
"Dwi'n meddwl ei fod e'n anrhydedd", medd un person oedd yn cerdded trwy'r dref yr wythnos hon - "anrhydedd mawr".
"Mae'n gr锚t," ychwanegodd Patricia Cullis.
"Fe fydd e'n dod 芒 phobl mewn i'r dre', a bydd pobl yn cael gweld pa mor gr锚t yw Ponty."
Mae'r Eisteddfod eleni'n cael ei gwerthu fel Eisteddfod wahanol - Eisteddfod drefol.
Mae lleoliad y maes reit ynghanol tref hanesyddol Pontypridd, ac ma'r Eisteddfod wedi cymryd mantais o'r adnodd hwnnw.
Bydd canolfan Muni ynghanol y dref yn cynnal rhai gweithgareddau - adeilad sydd wedi ei ailddatblygu ac sy'n agor mewn pryd i'r brifwyl.
"Does dim gwell amser i agor adeilad celfyddydol nac amser Eisteddfod Genedlaethol Cymru," meddai Richard Hughes, prif weithredwr Awen - yr ymddiriedolaeth ddiwylliannol sy'n rhedeg y Muni.
"Mae'r 诺yl yn gyfan gwbl yn ymwneud 芒 diwylliant, wrth gwrs, a dyna yw'r adeilad yma.
"Diwylliant i'r gymuned yma ym Mhontypridd, ac ma' siawns gyda ni i ddangos hwnna i Gymru gyfan drwy'r wythnos nesa' gyda'r r么l mae'n mynd i chwarae yn yr Eisteddfod."
Pan fydd y maes yn agor dydd Sadwrn fe all yr ymwelwyr ddisgwyl Eisteddfod wahanol, yn 么l cyfarwyddwr artistig y Brifwyl Elen Elis.
"Mae mewn parc yn y dref ei hun ym Mhontypridd. Mae鈥檔 hyfryd, mae鈥檔 lliwgar," meddai.
"Mae 'na goed o鈥檔 cwmpas ni, 'da chi鈥檔 gweld y strwythurau, pentrefi gwahanol ar draws y maes, yn lliwgar iawn i'r llygad.
"Mae 鈥榥a dros 1,000 o ddigwyddiadau yn mynd i ddigwydd dros yr wythnos a鈥檙 cystadlu ar ben hynny. Fe fydd 鈥榥a ddigon o bethau i bobl fwynhau."
Ychwanegodd: "Mae鈥檙 maes yn hyfryd a dydi o ddim bwys fod o 'chydig bach yn llai na鈥檙 arfer.
"Weithiau mae鈥檙 maes rhy fawr - dydi o ddim ots - 'da ni鈥檔 addasu i ffitio鈥檙 gofod sydd gyda ni.
"'Da ni wedi mynd allan i鈥檙 dre'. 'Da ni yn Muni yn y dre'. 'Da ni hefyd yn YMa ac felly yn fan 'na fydd rhagbrofion, fydd cyngherddau.
"Mae 鈥榥a ambell i gyngerdd nos yn y Muni. Mae 鈥榥a sioeau theatrig yn digwydd yma, felly 鈥榙a ni鈥檔 defnyddio鈥檙 adnoddau sydd yn y dre' hefyd.
"Mi fydd 鈥榥a ymarferion yn digwydd mewn eglwys leol, felly 鈥榙a ni鈥檔 defnyddio'r dre' a鈥檌 phobl i gydweithio efo ni, mewn ffordd, i roi yr 诺yl orau posib i bobl."
Mae'r Eisteddfod hefyd yn cael ei gwerthu fel Eisteddfod werdd eleni, a'r pwyslais ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y maes.
"鈥楧a ni isio pobl i fod yn ddoeth wrth deithio i Bontypridd," meddai Ms Elis.
"Mae hi'n dref brysur felly 鈥榙a ni wedi darparu gymaint 芒 phosibl mewn sgwrs gyda鈥檙 cyngor sir o ran darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae 鈥榥a fysys, mae 鈥榥a fwy ohonyn nhw, maen nhw鈥檔 mynd yn hwyrach i鈥檙 nos.
"Mae 鈥榥a dr锚n. Mae鈥檔 agos iawn i un o鈥檙 pontydd sy鈥檔 dod mewn i鈥檙 maes felly mae 鈥榥a ddwy bont i gerdded i mewn i鈥檙 maes - 'mond bo' nhw efo tocyn ar eu ff么n neu beth bynnag i ddod i mewn."
'Peidiwch trio dod 芒 char i mewn'
Ychwanegodd: "Mae 鈥榥a le i bobl efo bathodyn glas i barcio hefyd yn lle parcio St Catherine鈥檚, felly mae 鈥榥a ddarpariaeth i bobl, ond falle i bobl edrych o flaen llaw a pharatoi.
"Mae 鈥榥a le parcio a dal bws neu dal tr锚n hefyd yn cael ei ddarparu i bobl.
"Peidiwch trio dod 芒 char i mewn. Defnyddiwch ddarpariaeth cyhoeddus sydd ar gael i chi, a mae鈥檔 well i鈥檙 amgylchedd beth bynnag."